Hygyrchedd
Datganiad Hygyrchedd
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Hwb Hyfforddiant Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Cymru: https://www.sshp.wales
Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru sy’n rhedeg y wefan hon. Rydyn ni am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu dylech chi allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffont
- chwyddo mewn hyd at 200% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
- llywio o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
- llywio o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver).[CC(WHC1]
Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib ei ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Mae hygyrchedd y wefan hon yn cyd-fynd â safonau’r llywodraeth a’r Canllawiau ar Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG). WCAG sy’n cael eu derbyn yn eang fel y safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd ar y we.
Er ein bod yn anelu at wneud y wefan hon yn hygyrch i’r holl ddefnyddwyr a chyrraedd lefel cydymffurfio ‘AA’ WCAG 2.1, rydyn ni’n gweithio’n barhaus gyda rhanddeiliaid i wneud yn siŵr bod y lefel cydymffurfio ‘A’ yn cael ei chyrraedd fan leiaf.[CC(WHC2]
Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau hygyrchedd ar y wefan hon neu fod gennych chi unrhyw sylwadau, cysylltwch â ni.
Hygyrchedd y wefan hon:
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio â safon AA y Canllawiau ar Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd ar y wefan hon
Rydyn ni’n ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon drwy’r amser. Os ydych chi’n sylwi ar unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu’n credu nad ydyn ni’n bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
Trefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd). Os nad ydych chi’n fodlon ar sut rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA y Canllawiau ar Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 o ganlyniad i’r achosion o ddiffyg cydymffurfio a’r esemptiadau a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Hygyrchedd Iaith
- 3.1.2 Iaith Rhannau – Mae rhannau o destun wedi’u defnyddio mewn gwahanol ieithoedd (Cymraeg a Saesneg) heb newid eu hiaith raglennol ar gyfer technolegau cynorthwyol. Mae hyn wedi’i wneud lle bo’n bosib. Serch hynny mae achosion, er enghraifft mewn cynnwys wedi’i gyflwyno gan ddefnyddwyr, lle nad oedd modd gosod hyn yn awtomatig.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Mae gennym drefn fonitro ar waith i adolygu hygyrchedd y wefan hon yn barhaus. Rydyn ni’n defnyddio’r gwaith monitro hwn i nodi a datrys unrhyw broblemau newydd sy’n codi. Rydyn ni hefyd yn ymateb i unrhyw broblemau a nodir yn gyflym ac yn effeithiol.
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ym mis Mehefin 2022. Bydd yn cael ei adolygu ym mis Ebrill 2023.