Cael Cymorth Nawr

Os ydych chi’n teimlo wedi eich llethu a bod angen i chi siarad â rhywun, mae nifer o asiantaethau gallwch chi gysylltu â. Dyma eu manylion:

C.A.L.L. Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru

Gwasanaeth 24/7 yn cynnig cymorth emosiynol am ddim a gwybodaeth/llenyddiaeth ynghylch iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl yng Nghymru.

24/7

7pm-11pm

bob dydd

Papyrus

Mae Papyrus yn darparu gwasanaeth HopeLine i bobl ifanc dan 35 oed sy’n ei chael hi’n anodd oherwydd meddyliau hunanladdol, neu i unrhyw un sy’n poeni bod person ifanc yn teimlo’n hunanladdol. Mae’n darparu man diogel i siarad am unrhyw beth sy’n digwydd mewn bywyd a allai effeithio ar ddiogelwch rhywun.

24/7

Llinell Wybodaeth Mind Cymru

I gael gwybodaeth am fathau o broblemau iechyd meddwl, ble i gael cymorth, meddyginiaethau, triniaethau amgen, ac eiriolaeth.

24/7

Childline

Mae Childline yn darparu man diogel i blant a phobl ifanc hyd at 19 oed yn y DU lle maen nhw’n gallu bod yn nhw eu hunain a theimlo’n ddiogel yn siarad am unrhyw beth. Mae cwnselwyr wedi’u hyfforddi ar gael i wrando ac i gynnig cymorth a chefnogaeth ar gyfer unrhyw broblem neu bryder, mawr neu fach, 24 awr y dydd.

24/7


Cefnogaeth i bobl y mae hunanladdiad neu farwolaeth anesboniadwy yn effeithio arnynt.

Nod Cymorth wrth Law yw helpu pobl sydd mewn profedigaeth yn annisgwyl oherwydd hynny. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n dod i gysylltiad â phobl mewn profedigaeth, i’w cynorthwyo i roi help iddynt ac i awgrymu sut y gallent hwy eu hunain gael cymorth os bydd ei angen arnynt.



Apiau

Mae apiau’n gallu bod yn ffordd wych o ddod o hyd i ffyrdd diogel o ddelio â theimladau neu meddyliau hunanladdol.

Ap StayAlive

Cymorth atal hunanladdiad hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd

Mae’r ap hwn yn adnodd atal hunanladdiad yn eich poced. Mae’n llawn gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i’ch helpu chi i gadw’n ddiogel yn ystod argyfwng. Fe allwch chi ei ddefnyddio os ydych chi’n cael meddyliau hunanladdol neu’n poeni am rywun arall a allai fod yn ystyried lladd eu hunain.

Ap Calm Harm

Mae Calm Harm yn cyflwyno tasgau i’ch helpu chi i wrthod neu reoli awydd hunan-niweidio. Dechreuwch arni drwy osod cyfrinair, er mwyn ei wneud yn gwbl breifat.

Ap distrACT

Gwybodaeth am feddyliau hunanladdol a hunan-niwediol, am dechnegau hunangymorth a chymorth amgen, ac am beth i’w wneud mewn argyfwng neu sefyllfa frys (does dim angen cofrestru).

Ap Self-Help y Samaritans

Poeni am hunan-niweidio? Teimlo eich bod eisiau lladd eich hun? Ddim yn gwybod beth i’w wneud nesaf? Defnyddiwch yr ap hwn.

Ewch i https://selfhelp.samaritans.org/