Creu Adnodd Newydd

1. Ar ôl i chi fewngofnodi, cliciwch ar My Resources ar y panel llywio ar y chwith:

2. Cliciwch ar Add New

3. Llenwch yr holl fanylion perthnasol ar gyfer eich cynnig hyfforddiant, gan roi cymaint

 o wybodaeth gyfoes â phosibl. Cyfeiriwch at yr adran gwybodaeth angenrheidiol ar frig y ddogfen hon am ragor o wybodaeth am y meysydd y dylid eu llenwi. Rhennir y rhain i’r categorïau a’r is-feysydd canlynol:

  1. Amser
  2. Manylion y Cwrs
    • Enw’r Cwrs
    • Amser o’r dydd
    • Hyd
    • Cost
    • Safle
  3. Darparwr
    • Darparwr [enw]
    • Cyfeiriad E-bost
    • Ffôn
    • Manylion Gwefan Darparwr y cwrs
  4. Trosolwg o’r Hyfforddiant
    • Nodau a chynulleidfa darged
    • Deilliannau dysgu
    • Dull cyflwyno ac arddulliau
    • Gwybodaeth a sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y cwrs
    • Cynnwys pobl â phrofiad bywyd
    • Asesu, credydau Datblygiad Proffesiynol Parhaus, ardystio
    • Trosolwg

4. Cofiwch gymryd sylw o’r opsiynau tagio ar ochr dde’r sgrin. Mae’r adrannau hyn yn eich galluogi i dagio’ch cyrsiau gyda’r manylion perthnasol a fydd o gymorth i ddefnyddwyr ddod o hyd iddynt wrth wneud chwiliad.

Cyflwyno’ch Adnodd i’w Gymeradwyo

Pan fyddwch chi’n credu bod eich tudalen yn barod i’w chyhoeddi, bydd angen i chi ei chyflwyno i’w chymeradwyo.

  1. Ar y llaw dde uchaf, cliciwch ar y botwm Submit to Workflow :

2. Dylid newid Select Workflow i Publish Workflow

3. Dylech weld ffenestr naid nawr gyda’r camau canlynol:

  1. Sicrhewch fod y rhan hon wedi’i gosod ar Publish Workflow
  2. Gallwch ddewis blaenoriaeth os yw’r adnodd neu’r golygiad hwn yn bwysig
  3. Yma bydd angen i chi ddewis aelod o staff SSHP i adolygu eich adnodd.
  4. Cliciwch ar y saeth i symud y person hwnnw ar draws i’r golofn Assigned
  5. Dewiswch ddyddiad ac amser yr hoffech chi gyhoeddi’r adnodd hwn
  6. Gallwch wneud unrhyw sylwadau yma
  7. Cliciwch ar Submit

4. Dylai staff SSHP gymeradwyo neu ddychwelyd eich adnodd i’w olygu ymhellach fel y bo’n briodol. Yn My Resources, caiff ei farcio “Ready to Publish” wrth aros am gymeradwyaeth.