Pa wybodaeth sydd ei hangen
Rydym am roi’r profiad defnyddiwr gorau a lefel uchel o ansawdd gwybodaeth i ymwelwyr â hwb hyfforddiant SSHP Cymru pan fyddant yn ymweld â’r platfform, felly cofiwch ddarparu gwybodaeth ar gyfer pob un o’r meysydd a ddarperir. Mae’n bwysig ystyried sut y byddwch yn diweddaru’r wybodaeth hon fel bod gan ddefnyddwyr yr wybodaeth gywir pan fo angen. Dyma un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o sicrhau bod defnyddwyr yn ymweld â’r wefan yn rheolaidd ac yn ymgysylltu â’ch cynigion hyfforddiant.
D.S. Sylwch ar y meysydd gorfodol sydd wedi’u hamlinellu’n goch a sicrhewch fod y rhain yn cael eu llenwi yn gywir, gan na fydd modd cyhoeddi cynnwys os caiff ei hepgor, neu os yw’n anghywir.
Gwybodaeth am y darparwr
Enw’r Maes | Disgrifiad |
Darparwr | Enw’r darparwr/sefydliad hyfforddiant |
Cyfeiriad E-bost | Cyfeiriad e-bost cyswllt ar gyfer ymholiadau neu fanylion pellach |
Ffôn | Rhif ffôn cyswllt ar gyfer ymholiadau |
Manylion Gwefan Darparwr y cwrs | URL/cyfeiriad gwefan y darparwr, neu lle gellir dod o hyd i fanylion y cwrs/cofrestru e.e. https://www.exampletraining.org |
Manylion y Cwrs
Enw’r Maes | Disgrifiad |
Enw’r Cwrs | Enw’r cynnig hyfforddiant (e.e: rhaglen hyfforddiant/gweithdy/fideo/e-fodiwl) a fydd yn cael ei arddangos ac yn ymddangos yn y chwiliad cynnig hyfforddiant i ddysgwyr |
Amser o’r Dydd | Yr amser o’r dydd y cyflwynir y cynnig hyfforddiant (os yw’n sefydlog) |
Hyd | Oriau astudio neu faint o amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cwrs |
Cost | Cost uned y cynnig (fesul dysgwr), cost fesul grŵp a chyfyngiadau o ran niferoedd |
Safle | Y lleoliad os caiff yr hyfforddiant ei gyflwyno wyneb yn wyneb |
Meysydd mewnbynnu Trosolwg o Hyfforddiant
Enw’r Maes | Disgrifiad |
Nodau a chynulleidfa darged | Disgrifiwch nod(au) cyffredinol yr hyfforddiant, gan gynnwys cyfeiriad at godi ymwybyddiaeth, caffael gwybodaeth, a datblygu sgiliau, fel y bo’n briodol, a phwy fydd yn elwa o’r hyfforddiant |
Deilliannau dysgu | Adran i amlinellu neu fanylu ar y canlyniadau dysgu a gyflwynir |
Dull cyflwyno ac arddulliau | Sut mae’r hyfforddiant yn cael ei gyflwyno, er enghraifft: gweithdy wyneb yn wyneb gydag ymarferion ymarferol (datblygu sgiliau neu feithrin hyder); darlith (trosglwyddo gwybodaeth); cwrs ar-lein neu e-fodiwl gyda chwestiynau amlddewis i brofi gwybodaeth; fideo rhyngweithiol (i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth) |
Yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar yr hyfforddwyr | Adran i amlinellu neu fanylu ar wybodaeth a sgiliau’r hyfforddwyr sy’n cyflwyno’r cynnig hyfforddiant, a faint sy’n cael eu neilltuo i gyflwyno pob sesiwn (diogelu). |
Cynnwys pobl â phrofiad bywyd | Sut mae pobl â phrofiad bywyd o’r pwnc wedi bod yn rhan o ddylunio a/neu gyflwyno’r cynnig hyfforddiant. |
Asesu, credydau Datblygiad Proffesiynol Parhaus, ardystio | Y ffyrdd y caiff gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau eu hasesu, a sut mae’r hyfforddiant yn cael ei gydnabod, ei ardystio, ei achredu neu ei sicrhau o ran ansawdd, a chan ba asiantaethau achredu/sicrwydd ansawdd. |
Trosolwg | Disgrifiad o’r hyn y bydd dysgwyr yn ei brofi wrth symud ymlaen trwy’r cynnig hyfforddiant a’r hyn y gallant ddisgwyl ei ennill ar ôl ei gwblhau. Gallai hyn gynnwys dyfyniadau neu dystebau gan ddysgwyr blaenorol sy’n disgrifio’r hyn y teimlent eu bod wedi’i ennill. |