Pa wybodaeth sydd ei hangen

Rydym am roi’r profiad defnyddiwr gorau a lefel uchel o ansawdd gwybodaeth i ymwelwyr â hwb hyfforddiant SSHP Cymru pan fyddant yn ymweld â’r platfform, felly cofiwch ddarparu gwybodaeth ar gyfer pob un o’r meysydd a ddarperir. Mae’n bwysig ystyried sut y byddwch yn diweddaru’r wybodaeth hon fel bod gan ddefnyddwyr yr wybodaeth gywir pan fo angen. Dyma un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o sicrhau bod defnyddwyr yn ymweld â’r wefan yn rheolaidd ac yn ymgysylltu â’ch cynigion hyfforddiant.

D.S. Sylwch ar y meysydd gorfodol sydd wedi’u hamlinellu’n goch a sicrhewch fod y rhain yn cael eu llenwi yn gywir, gan na fydd modd cyhoeddi cynnwys os caiff ei hepgor, neu os yw’n anghywir.

Gwybodaeth am y darparwr

Enw’r Maes Disgrifiad
Darparwr Enw’r darparwr/sefydliad hyfforddiant
Cyfeiriad E-bost Cyfeiriad e-bost cyswllt ar gyfer ymholiadau neu fanylion pellach
Ffôn Rhif ffôn cyswllt ar gyfer ymholiadau
Manylion Gwefan Darparwr y cwrsURL/cyfeiriad gwefan y darparwr, neu lle gellir dod o hyd i fanylion y cwrs/cofrestru e.e. https://www.exampletraining.org

Manylion y Cwrs


Enw’r Maes                  
Disgrifiad
Enw’r Cwrs Enw’r cynnig hyfforddiant (e.e: rhaglen hyfforddiant/gweithdy/fideo/e-fodiwl) a fydd yn cael ei arddangos ac yn ymddangos yn y chwiliad cynnig hyfforddiant i ddysgwyr
Amser o’r Dydd Yr amser o’r dydd y cyflwynir y cynnig hyfforddiant (os yw’n sefydlog)
Hyd Oriau astudio neu faint o amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cwrs
Cost Cost uned y cynnig (fesul dysgwr), cost fesul grŵp a chyfyngiadau o ran niferoedd
SafleY lleoliad os caiff yr hyfforddiant ei gyflwyno wyneb yn wyneb

Meysydd mewnbynnu Trosolwg o Hyfforddiant

Enw’r Maes Disgrifiad
Nodau a chynulleidfa darged Disgrifiwch nod(au) cyffredinol yr hyfforddiant, gan gynnwys cyfeiriad at godi ymwybyddiaeth, caffael gwybodaeth, a datblygu sgiliau, fel y bo’n briodol, a phwy fydd yn elwa o’r hyfforddiant
Deilliannau dysgu Adran i amlinellu neu fanylu ar y canlyniadau dysgu a gyflwynir
Dull cyflwyno ac arddulliauSut mae’r hyfforddiant yn cael ei gyflwyno, er enghraifft: gweithdy wyneb yn wyneb gydag ymarferion ymarferol (datblygu sgiliau neu feithrin hyder); darlith (trosglwyddo gwybodaeth); cwrs ar-lein neu e-fodiwl gyda chwestiynau amlddewis i brofi gwybodaeth; fideo rhyngweithiol (i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth)
Yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar yr hyfforddwyrAdran i amlinellu neu fanylu ar wybodaeth a sgiliau’r hyfforddwyr sy’n cyflwyno’r cynnig hyfforddiant, a faint sy’n cael eu neilltuo i gyflwyno pob sesiwn (diogelu).
Cynnwys pobl â phrofiad bywydSut mae pobl â phrofiad bywyd o’r pwnc wedi bod yn rhan o ddylunio a/neu gyflwyno’r cynnig hyfforddiant.
Asesu, credydau Datblygiad Proffesiynol Parhaus, ardystio Y ffyrdd y caiff gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau eu hasesu, a sut mae’r hyfforddiant yn cael ei gydnabod, ei ardystio, ei achredu neu ei sicrhau o ran ansawdd, a chan ba asiantaethau achredu/sicrwydd ansawdd.
Trosolwg Disgrifiad o’r hyn y bydd dysgwyr yn ei brofi wrth symud ymlaen trwy’r cynnig hyfforddiant a’r hyn y gallant ddisgwyl ei ennill ar ôl ei gwblhau. Gallai hyn gynnwys dyfyniadau neu dystebau gan ddysgwyr blaenorol sy’n disgrifio’r hyn y teimlent eu bod wedi’i ennill.