Creu Adnodd Newydd
1. Ar ôl i chi fewngofnodi, cliciwch ar My Resources ar y panel llywio ar y chwith:
2. Cliciwch ar Add New
3. Llenwch yr holl fanylion perthnasol ar gyfer eich cynnig hyfforddiant, gan roi cymaint
o wybodaeth gyfoes â phosibl. Cyfeiriwch at yr adran gwybodaeth angenrheidiol ar frig y ddogfen hon am ragor o wybodaeth am y meysydd y dylid eu llenwi. Rhennir y rhain i’r categorïau a’r is-feysydd canlynol:
- Amser
- Manylion y Cwrs
- Enw’r Cwrs
- Amser o’r dydd
- Hyd
- Cost
- Safle
- Darparwr
- Darparwr [enw]
- Cyfeiriad E-bost
- Ffôn
- Manylion Gwefan Darparwr y cwrs
- Trosolwg o’r Hyfforddiant
- Nodau a chynulleidfa darged
- Deilliannau dysgu
- Dull cyflwyno ac arddulliau
- Gwybodaeth a sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y cwrs
- Cynnwys pobl â phrofiad bywyd
- Asesu, credydau Datblygiad Proffesiynol Parhaus, ardystio
- Trosolwg
4. Cofiwch gymryd sylw o’r opsiynau tagio ar ochr dde’r sgrin. Mae’r adrannau hyn yn eich galluogi i dagio’ch cyrsiau gyda’r manylion perthnasol a fydd o gymorth i ddefnyddwyr ddod o hyd iddynt wrth wneud chwiliad.
Cyflwyno’ch Adnodd i’w Gymeradwyo
Pan fyddwch chi’n credu bod eich tudalen yn barod i’w chyhoeddi, bydd angen i chi ei chyflwyno i’w chymeradwyo.
- Ar y llaw dde uchaf, cliciwch ar y botwm Submit to Workflow :
2. Dylid newid Select Workflow i Publish Workflow
3. Dylech weld ffenestr naid nawr gyda’r camau canlynol:
- Sicrhewch fod y rhan hon wedi’i gosod ar Publish Workflow
- Gallwch ddewis blaenoriaeth os yw’r adnodd neu’r golygiad hwn yn bwysig
- Yma bydd angen i chi ddewis aelod o staff SSHP i adolygu eich adnodd.
- Cliciwch ar y saeth i symud y person hwnnw ar draws i’r golofn Assigned
- Dewiswch ddyddiad ac amser yr hoffech chi gyhoeddi’r adnodd hwn
- Gallwch wneud unrhyw sylwadau yma
- Cliciwch ar Submit
4. Dylai staff SSHP gymeradwyo neu ddychwelyd eich adnodd i’w olygu ymhellach fel y bo’n briodol. Yn My Resources, caiff ei farcio “Ready to Publish” wrth aros am gymeradwyaeth.