Golygu Adnodd Cyhoeddedig
Rydym yn eich annog i sicrhau bod unrhyw gynigion hyfforddi sy’n cael eu hychwanegu at y platfform yn cael eu diweddaru’n rheolaidd gyda gwybodaeth wrth i gynigion newid fel bod defnyddwyr sy’n dod i’r platfform yn cael yr wybodaeth fwyaf diweddar ac yn gallu cael cymorth a hyfforddiant pan fydd ei angen arnynt. Unwaith y bydd adnodd wedi’i gyhoeddi, mae angen i Staff SSHP gymeradwyo newidiadau pellach hefyd.
Pan fyddwch chi’n diwygio adnodd, bydd WordPress yn cymryd copi o’r Adnodd, ac yn caniatáu i chi ei olygu. Yna unwaith y caiff ei gymeradwyo a’i gyhoeddi bydd yn disodli’r adnodd presennol.
I olygu neu ddiweddaru adnodd gallwch wneud y canlynol:
1. Yn My Resources, hofrwch dros eich adnodd, a byddwch yn gweld botwm Make Revision
2. Pan gaiff ei glicio, mae WordPress yn cymryd copi o’ch Adnodd ac yn caniatáu ichi ei olygu fel arfer:
Cyflwyno’r Diwygiad i’w Gymeradwyo
1. Pan fyddwch wedi gorffen diwygio, cliciwch ar y botwm Submit to Workflow
2. Sylwch fod Select Workflow bellach yn Revision Workflow, mae hyn er mwyn nodi ei fod yn ddiweddariad o dudalen a gyhoeddwyd yn flaenorol
3. Ychwanegwch Comments a Assign ân Actor, yna Submit to Workflow fel o’r blaen: