Amdano Cymorth wrth Law
Amdano Cymorth wrth Law
Pan fyddwch yn darganfod bod rhywun sy’n agos atoch chi wedi marw oherwydd hunanladdiad neu bod ei farwolaeth yn annisgwyl ac yn anesboniadwy, byddwch fwy na thebyg yn teimlo amrywiaeth o emosiynau a theimladau corfforol. Weithiau mae’n amlwg mai hunanladdiad yw achos marwolaeth perthynas neu ffrind, ond yn aml nid yw hynny’n glir. Gall ansicrwydd godi oherwydd y ffaith bod y farwolaeth yn gwbl annisgwyl neu oherwydd y ffordd y bu farw’r unigolyn, er enghraifft drwy foddi neu drwy gymryd gorddos o gyffuriau.
Mae’r canllaw hwn wedi’i anelu at ystod eang o bobl y mae hunanladdiad neu farwolaeth anesboniadwy yn effeithio arnynt. Ei nod yw helpu pobl sydd mewn profedigaeth yn annisgwyl oherwydd hynny. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n dod i gysylltiad â phobl mewn profedigaeth, i’w cynorthwyo i roi help iddynt ac i awgrymu sut y gallent hwy eu hunain gael cymorth os bydd ei angen arnynt.
Gall ymdopi â phrofedigaeth oherwydd hunanladdiad fod yn anodd iawn, ac mae llawer o bobl sydd mewn profedigaeth o’r fath yn ei chael hi’n anodd cael yr help sydd ei angen arnynt. Mae miloedd o bobl yn marw oherwydd hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr. Bydd crwner yn rhoi casgliad o hunanladdiad ar gyfer rhai marwolaethau o’r fath, ond rhoddir casgliad agored neu achos marwolaeth arall ar gyfer llawer ohonynt. Amcangyfrifir bod pob marwolaeth o’r fath yn cael effaith ddofn ar o leiaf chwech o bobl. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Rhieni
- Partneriaid
- Plant
- Brodyr a chwiorydd
- Ffrindiau
- Cydweithwyr
- Athrawon
- Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
Mae credoau a thraddodiadau’n ymwneud â marwolaeth a galaru yn wahanol ymysg grwpiau ffydd a grwpiau diwylliannol gwahanol, a bydd hyn yn dylanwadu ar brofiad yr unigolyn o brofedigaeth. Nod y canllaw hwn yw esbonio rhai o’r materion ymarferol ac emosiynol a all effeithio ar bobl sydd mewn profedigaeth o’r fath.
Bydd rhai rhannau o’r canllaw hwn yn ddefnyddiol yn union ar ôl y farwolaeth, a bydd eraill o gymorth yn ystod yr wythnosau a’r misoedd sy’n dilyn. Caiff gweithwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill fel swyddogion y crwner, yr heddlu, trefnwyr angladdau a chynghorwyr profedigaeth eu hannog i roi cyngor i bobl sydd mewn profedigaeth ynghylch sut i ddefnyddio’r canllaw hwn.
Gall gweithwyr proffesiynol helpu drwy gyfeirio pobl at adrannau allweddol o’r canllaw hwn ac yn benodol at y sefydliadau a’r deunyddiau sydd ynddo fel ffynonellau cymorth a gwybodaeth.
Diolchiadau
Yn 2011 cafodd y Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Llywodraeth Cymru, dan gadeiryddiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, y gorchwyl o greu fersiwn Cymreig a Chymraeg o ‘Help is at Hand’, sef adnodd i bobl sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad neu farwolaeth drawmatig ac annisgwyl arall.
Datblygwyd y canllaw gwreiddiol gan yr Athro Keith Hawton a Sue Simkin yn y Ganolfan Ymchwil i Hunanladdiad ym Mhrifysgol Rhydychen ar y cyd â grŵp cynghori a sefydlwyd gan yr Adran Iechyd. Cafodd ei gyhoeddi gyntaf yn 2006 ac roedd yn seiliedig ar becyn profedigaeth a ddatblygwyd yn flaenorol gan y Ganolfan ac a gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mawr yw ein dyled i bawb a helpodd i ddatblygu’r canllaw hwn ac nid oes llawer o wahaniaeth rhwng y ddogfen wreiddiol honno a’r ddogfen hon, ac eithrio’r ffaith ei bod yn cynnwys awgrymiadau a ddeilliodd o werthusiad o’r adnodd a sylwadau gan Grŵp Cynghori Cenedlaethol Cymru.
Mae aelodau o’r grŵp cynghori a gyfrannodd at fersiwn Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Samariaid, Papyrus, MIND Cymru, Llywodraeth Cymru, Gofal Galar Cruse, Grŵp Diddordeb Arbennig mewn Ysbrydolrwydd ac Iechyd Meddwl Cymru Gyfan ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Hoffem ddiolch yn arbennig i Ann John, Sian Price, Phill Chick, Alan Briscoe a Dean Piper am eu cyfraniadau ac i Iechyd Cyhoeddus Cymru am ariannu’r prosiect.
Cafwyd y fersiwn hon ei hailwampio gan Ann John, Karen Evans, Sian Price, a’i chyfiethu gan Helen Daniels.
Mehefin 2016