Beth ddylwn i ei ddweud wrth bobl eraill?

Gallai fod yn anoddach i chi siarad am hunanladdiad na mathau eraill o farwolaeth, ond gallwch chi benderfynu faint yr ydych am ei ddweud wrth bobl. Gallech ddweud yn syml “mae fy mrawd wedi marw”, neu “mae fy mam wedi marw drwy hunanladdiad” ac nad ydych yn dymuno trafod y manylion.