A yw profedigaeth oherwydd hunanladdiad a marwolaeth annisgwyl ac anesboniadwy arall yn wahanol? 

Gall colli rhywun yr ydych wedi bod yn agos atynt, beth bynnag fo achos y farwolaeth, arwain at deimladau dwys o alar. Ond gall rhai o ymatebion pobl sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad fod yn wahanol i’r rhai a deimlir ar ôl mathau eraill o farwolaethau. Mae’r ffaith bod marwolaeth unigolyn yn cynnwys elfen o ddewis yn codi cwestiynau poenus nad ydynt yn codi gyda marwolaeth oherwydd achosion naturiol neu farwolaeth oherwydd damwain. 

Gall profedigaeth oherwydd hunanladdiad barhau am gyfnod maith weithiau. Gall ysgogi atgofion am golledion blaenorol, yn arbennig os oedd un o’r colledion hynny oherwydd hunanladdiad. Yn aml gall sioc, teimlo’n ynysig ac euogrwydd fod yn ddwysach gyda phrofedigaeth oherwydd hunanladdiad o gymharu ag achosion marwolaeth eraill. Mae’r broses alaru wedi’i nodweddu gan gwestiynau ac ymgais i chwilio am eglurhad. Gall rhai pobl gael teimladau cryf o gael eu gadael a’u gwrthod. Disgrifir rhai o’r agweddau penodol ar brofedigaeth oherwydd hunanladdiad isod. Gall rhai ohonynt – neu efallai bob un ohonynt – fod yn berthnasol i’ch profiad chi o alar. 

Darluniau cyson yn y meddwl

Un agwedd gyffredin a gofidus ar alar ar ôl hunanladdiad yw darluniau cyson yn y meddwl o’r farwolaeth, hyd yn oed os na welsoch y farwolaeth yn digwydd. Os chi oedd yr un a ddaeth o hyd i gorff y sawl a fu farw, gall hyn fod yn drawmatig iawn, yn arbennig os oedd y farwolaeth yn un dreisgar. Gallech gael hunllefau cyson a mynd dros y darluniau o’r farwolaeth yn eich meddwl. Drwy siarad am yr hyn a ddigwyddodd ac ailedrych ar y manylion dro ar ôl tro, efallai y byddant yn dod yn llai poenus. Os bydd y delweddau’n parhau ac yn amharu ar eich bywyd, gofynnwch i’ch meddyg a allai eich cyfeirio at arbenigwr sy’n gallu helpu.

Pam?

Bydd llawer o bobl sydd newydd gael profedigaeth yn gofyn “pam?”, ond gall profedigaeth oherwydd hunanladdiad yn aml olygu cyfnod hir o chwilio am reswm dros y farwolaeth. Gall aelodau gwahanol o’r teulu fod â syniadau gwahanol am y rheswm, a gall hyn roi straen ar berthynas deuluol, yn arbennig os bydd elfen o feio. Mae llawer o bobl sy’n cael profedigaeth oherwydd hunanladdiad yn dod i dderbyn na fyddant byth yn gwybod y rheswm pam y bu i’r ungiolyn wneud yr hyn a wnaeth. Er y gall y farwolaeth fod wedi dilyn digwyddiad penodol, anaml y gellir priodoli hunanladdiad i un achos penodol. 

A ellid bod wedi’i atal? 

Mae ail-fyw’r hyn y gellid bod wedi’i wneud i atal rhywun rhag cyflawni hunanladdiad yn brofiad cyffredin i bobl sydd wedi cael profedigaeth o’r fath. Gall popeth fod yn gwbl amlwg o edrych yn ôl, a gall y cwestiynau ‘beth petai?’ ymddangos yn ddiddiwedd: “Beth pe bawn i wedi sylwi ar y sylw neu’r arwydd yna?” neu “Beth pe na bawn i wedi bod i ffwrdd y penwythnos hwnnw?” Gall fod o help i chi gofio y gall y newidiadau mewn ymddygiad sy’n arwain at hunanladdiad fod yn rhai graddol iawn. Mae’n anodd gweld pan fydd rhywun yn cyrraedd y pwynt lle y mae am ladd ei hun, ac mae hyd yn oed weithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn ei chael hi’n anodd gwybod pan fydd rhywun yn wynebu risg fawr. Pan fydd rhywun wedi penderfynu lladd ei hun, gall wneud ymdrech fawr i guddio ei gynlluniau. 

Euogrwydd

Pan fydd rhywun yn marw oherwydd hunanladdiad, gall ei deulu a’i ffrindiau gael teimladau dwys o euogrwydd, gan feio a chwestiynu eu hunain.

Ar ôl marwolaeth ei brawd, disgrifiodd un fenyw ei heuogrwydd dwfn:

Nid oes yr un dydd wedi mynd heibio lle nad wyf wedi gofyn ‘pam?’ i mi fy hun a lle nad wyf wedi teimlo tonnau o eugorwydd sy’n fy llusgo i lawr yn ddyfnach ac yn ddyfnach. Roeddwn mewn artaith wrth feddwl p’un a allem ni fel teulu fod wedi gwneud rhywbeth a allai fod wedi gwneud iddo fod eisiau aros gyda ni. Pam y gwnaethon ni ddweud yr holl bethau ofnadwy yna wrth ein gilydd pan oeddem yn tyfu ac yn waeth na hynny, pam na wnes i ddweud yr holl bethau yr wyf nawr yn dymuno y byddwn wedi gallu eu dweud?” 

Gall siarad am eich teimladau gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo eich helpu er mwyn cael persbectif realistig, ond os nad ydych am rannu eich teimladau, ceisiwch beidio â beio eich hun. Gallwch wneud rhestr o’r pethau a wnaethoch chi i helpu’r sawl a fu farw. Ceisiwch gofio nad oedd modd i chi ddarogan y dyfodol ac nad oes neb yn gyfrifol am weithredoedd rhywun arall. Nid oes neb yn berffaith, ac anaml iawn y mae’r rhesymau dros hunanladdiad yn syml. Ceisiwch faddau i chi eich hun os oes pethau y gwnaethoch eu dweud neu’u gwneud yr ydych yn edifar amdanynt nawr. Os bydd eich teimladau o eugorwydd yn parhau, efallai y byddai’n ddefnyddiol eu trafod gyda grŵp cymorth neu gyda chynghorydd.

Sut y gallaf ddweud wrth bobl eraill am y farwolaeth? 

Weithiau mae’n anodd siarad yn agored am hunanladdiad, ond y cyfan y bydd cadw’r ffeithiau’n gyfrinach yn ei wneud fydd ychwanegu at y straen sydd arnoch yn y tymor hwy. Os nad ydych am siarad am y manylion, gallwch ddweud: “Fe benderfynodd ladd ei hun, ond alla i ddim siarad am y peth nawr.” Ceir awgrymiadau ynghylch beth i’w ddweud wrth blant yn yr adran Sut y dylwn i drafod y farwolaeth gyda’m plant’. 

Cael eich gwrthod a’ch gadael

Mae’n gyffredin teimlo eich bod wedi cael eich gadael a’ch gwrthod gan rywun sydd wedi lladd ei hun. Dywedodd un fenyw y bu i’w brawd ladd ei hun:

“Roeddwn yn ofidus oherwydd nad oedd wedi dod i siarad â ni. Rwy’n credu bod pawb ohonom wedi teimlo dicter ar ryw adeg. Rydych chi’n meddwl: ‘Sut y gallet ti wneud hyn i ni?” 

Weithiau mae’r teimlad hwn o gael eich gwrthod yn arwain at deimlo’n annigonol ac mae’n peri i’r sawl sydd mewn profedigaeth ynysu ei hun oddi wrth bobl a allai eu helpu oherwydd ei fod yn teimlo’n ddiwerth neu’n ofni cael ei wrthod eto. Mae’r rhain yn brofiadau cyffredin.

Mae’n bosibl bod y sawl a fu farw mor bryderus ynghylch ei broblemau ei hun fel na allai feddwl am bobl eraill, neu ei fod yn teimlo y gallai pobl eraill fod yn well hebddo.

Ofnau a theimladau hunanladdol 

Mae anobaith yn rhan naturiol o alaru, ond ar ôl i rywun farw oherwydd hunanladdiad, gall y teimlad hwn ddod law yn llaw ag ofn ynghylch eich diogelwch eich hun. Weithiau bydd pobl sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad yn pryderu a yw’r teimladau hunanladdol yn rhai a etifeddir a gallant gael mwy o deimladau felly eu hunain. Os cewch deimladau fel hyn, gall fod o gymorth eu trafod gyda grŵp cymorth neu eich meddyg. Er bod y meddyliau hyn yn cilio gydag amser, mae’n hanfodol gofyn am help proffesiynol os byddant yn dod yn deimladau cryf. 

“Rwy’n hŷn nawr nag yr oedd fy mam pan laddodd ei hun: efallai fod hynny’n golygu fy mod wedi osgoi ei ffawd… Mae hunanladdiad yn hudolus; pan fydd yn opsiwn, rydych yn chware â’r syniad… Am flynyddoedd, pryd bynnag yr oeddwn yn credu fy mod wedi gwneud llanastr o bethau byddwn yn credu bod yn rhaid i mi gyflawni hunanladdiad… Rwyf yn dal i deimlo fel hyn nawr weithiau ond nid yw’n digwydd mor aml”.1

1. By Her Own Hand: Memoirs of Suicide’s Daughter. Signe Hammer (1992). Efrog Newydd: Vintage Books, t. 190–191 

Stigma a theimlo’n ynysig 

Dywedodd mam a oedd yn ysgrifennu am farwolaeth ei mab nad oes neb wedi dweud wrth lawer ohonom beth i’w ddweud wrth rywun sydd wedi dioddef hunanladdiad yn y teulu. 

“Yr hyn yr oeddwn am ei glywed oedd yr un peth ag y byddai rhywun wedi ei ddweud wrth unrhyw un arall a fyddai wedi colli rhywun agos – ‘Mae’n wir ddrwg gen i am dy boen ac oes rhywbeth alla i ei wneud? Os hoffet ti siarad am y peth, rwy’n wrandäwr da. Mae gennyf ysgwydd dda i ti grïo arni’. Ac roeddwn am wybod bod rhywun yn golygu hynny. Does neb eisiau siarad am hunanladdiad. Mae pawb yn credu ei bod yn well peidio â dweud dim, ac os na fyddwch yn siarad amdano bydd yn cael ei anghofio a bydd yn diflannu. I mi, ni all dim fod ymhellach o’r gwir.” 

Er bod agweddau tuag at hunanladdiad yn newid, gall y ffaith bod eraill yn cadw’n dawel atgyfnerthu teimladau o stigma a chywilydd. Os bydd pobl eraill yn teimlo embaras, yn anniddig, neu’n ceisio osgoi’r pwnc gallech deimlo’n ynysig ac nad oes cyfleoedd i siarad am bob agwedd ar fywyd yr unigolyn a fu farw a chofio a dathlu’r agweddau hynny. 

Gallwch deimlo’r angen i ddiogelu’r sawl a fu farw a chi eich hun rhag beirniadaeth gan eraill. Gallwch ynysu eich hun, naill ai oherwydd cywilydd, neu oherwydd eich bod am gau eich hun oddi wrth y byd am gyfnod. Efallai na fydd ffrindiau’n cysylltu â chi oherwydd nad ydynt yn gwybod beth i’w ddweud. Gallech wneud pethau’n haws i eraill drwy roi gwybod iddynt fod angen help arnoch chi (gweler Sut y gall ffrindiau helpu). 

Gall ymuno â grŵp cymorth i bobl mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad helpu i leihau stigma a theimlo’n ynysig. Mae gwefannau hefyd lle y gall pobl rannu eu profiadau (gweler Ffynonellau cymorth a gwybodaeth). 

Nodiadau a negeseuon hunaladdiad

Weithiau bydd pobl sy’n marw drwy hunanladdiad yn gadael nodyn/negeseuon. Gall hyn fod yn gysur i deulu a ffrindiau os bydd y sawl a fu farw’n mynegi cariad, yn gofyn am faddeuant ac yn dweud wrthynt nad hwy sydd ar fai. Os oedd y farwolaeth yn gwbl annisgwyl, gall nodyn helpu i gael gwared ag unrhyw ansicrwydd ynghylch ai hunanladdiad oedd y farwolaeth ai peidio. 

Yn achlysurol, fodd bynnag, gall nodyn/negeseuon beri loes, gall fod yn annymunol a gall fwrw bai ar bobl. Mae’n helpu i gofio mai dim ond adlewyrchu cyflwr meddwl yr awdur ar adeg pan fyddai eu teimladau a’u meddyliau wedi eu tarfu y mae’r nodyn. 

Ni fydd nodyn o reidrwydd yn rhoi’r holl atebion o ran y rhesymau dros yr hunanladdiad, ond gall y ffaith na fydd rhywun yn gadael nodyn/negeseuon beri gofid hefyd.