Emosiynau yn ystod profedigaeth

Tristwch

Wrth i’r sioc gychwynnol ddechrau pylu, gallech deimlo tristwch dwys. Efallai na fyddwch am gael cysylltiad â’ch teulu a’ch ffrindiau ac efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd rhoi’r gorau i wylo. Mae wylo yn ffordd o ryddhau straen, felly gadewch i chi eich hun wylo os bydd angen. Dewch o hyd i rywle lle y gallwch wylo’n breifat os yw’n well gennych. Nid pawb sydd eisiau wylo’n, ac mae hyn hefyd yn gwbl normal. Yn raddol byddwch yn debygol o dderbyn eich colled a thrysori atgofion hapus am y sawl a fu farw, ac ni fydd y tristwch mor annioddefol.

Dicter

Mae dicter yn ymateb naturiol i golled, ac i rai pob gall y teimlad o gynddaredd fod yn ddwys. Gallech deimlo’n ddiymadferth oherwydd bod bywyd yn annheg a dicter tuag at eraill sy’n parhau â’u bywydau fel pe na bai dim wedi digwydd. Gall eich dicter fod yn eithaf penodol hefyd, ac efallai y byddwch am feio pobl eraill – perthnasau, ffrindiau, meddygon – nad oeddent i weld fel pe baent wedi helpu’r unigolyn ddigon cyn iddo farw, neu chi eich hun am beidio â gwneud mwy. Mae teimladau o ddicter tuag at y sawl a fu farw, oherwydd eich bod yn teimlo eu bod wedi mynd a’ch gadael i ymdopi ar eich pen eich hun, yn aml yn peri gofid a dryswch.

Dywedodd un fenyw ar ôl marwolaeth ei mab ei bod hi’n teimlo dicter mawr tuag ato am yr hyn yr oedd wedi’i wneud iddi hi, i’w chwaer, i’w mam a’r teulu. Roedd hi’n aml yn teimlo ei bod wedi’i llethu gan gynddaredd tuag at y byd, tuag at fywyd a thuag at y ffrindiau yr oedd hi’n arfer eu caru.

Gall dicter fod yn ffordd ddefnyddiol o ryddhau euogrwydd a thristwch. Mae rhai pobl yn ei chael hi’n ddefnyddiol ymdopi â theimladau o ddicter drwy wneud gweithgaredd corfforol.

Euogrwydd

Mae’n boenus iawn derbyn nad oedd modd i ni atal marwolaeth rhywun agos, ac mae pobl mewn profedigaeth yn aml yn beirniadu eu hunain yn llym. Mae marwolaeth annisgwyl yn tarfu ar berthynas glos yn ddirybudd, a chan nad ydym fel arfer yn byw ein bywydau fel pe bai bob dydd yn ddiwrnod olaf, rydym yn tybio y bydd amser i ddatrys y tensiwn a’r dadleuon neu i ddweud y pethau sydd heb gael eu dweud. Gall euogrwydd ddeillio o’r hyn y mae rhywun yn ei deimlo neu’r hyn nad yw’n ei deimlo yn ystod profedigaeth (e.e. dicter tuag at y sawl a fu farw, neu anallu i wylo neu i ddangos galar yn agored).

Mae rhai pobl yn teimlo’n euog oherwydd eu bod yn fyw pan fydd yr unigolyn arall wedi marw, neu’n credu nad oes hawl ganddynt i fod yn hapus. Gall ymdopi ag euogrwydd fod yn un o’r agweddau mwyaf anodd ar brofedigaeth oherwydd hunanladdiad.

Rhyddhad

Os bydd y sawl a fu farw wedi brwydro’n hir yn erbyn salwch neu anawsterau sylweddol eraill a bod pawb wedi dioddef llawer o dristwch a dioddefaint cyn i’r ungiolyn farw, gallai teuluoedd deimlo rhyddhad bod y cyfan drosodd o’r diwedd. Mae’r teimlad hwn yn gwbl naturiol.

Anobaith

Mae anobaith yn gallu bod yn dreth ar eich emosiynau a lladd eich diddordeb mewn pobl eraill, felly gall eich perthynas ag eraill ddioddef. Efallai na fydd bywyd yn gwneud synnwyr mwyach ac na fydd dim ystyr iddo. Mae teimladau o beidio â hidio dim am unrhyw beth neu unrhyw un yn gyffredin, yn ogystal â pheidio â malio beth sy’n digwydd i chi a hyd yn oed deimladau hunanladdol. Os bydd y teimladau hyn yn parhau, ewch i weld eich meddyg.

Ofn

Gall emosiynau treisgar a dryslyd wneud galaru’n brofiad brawychus. Gallech ofni y bydd digwyddiad tebyg yn digwydd eto, a theimlo ofn drosoch chi eich hun a’r rhai rydych chi’n eu caru. Gallwch ofni ‘colli rheolaeth’ neu ‘dorri i lawr’ ac arswydo wrth feddwl am y dyfodol heb y sawl a fu farw. Gallwch gael symptomau panig, fel colli eich anadl neu’ch calon yn curo’n gyflym. Mae’r rhain yn adweithiau normal. Mae rhai pobl yn canfod bod technegau myfyrio ac ymlacio yn gwneud iddynt deimlo’n fwy dan reolaeth a bod gwneud rhestr o’r pethau y maent yn eu hofni a ffyrdd o’u goresgyn yn ddefnyddiol,. Yn ogystal â siarad ag eraill sydd wedi cael profiadau tebyg. Bydd yr ofn yn lleihau gydag amser wrth i chi ddod yn fwy hyderus.

Iselder

Mae teimladau pobl sydd newydd gael profedigaeth yn debyg iawn i deimladau pobl sy’n dioddef o iselder. Fel iselder, gall galar arwain at dristwch ac anobaith dwys a gall amharu ar gwsg, y gallu i ganolbwyntio ac archwaeth bwyd. I rywun mewn profedigaeth, mae’r teimladau hyn yn ymateb naturiol i golled enbyd. Gall pobl sydd wedi cael profedigaeth fod yn fwy tebygol o deimlo tristwch ac iselder am beth amser i ddod. Gall siarad â ffrind neu gynghorydd profedigaeth neu ffonio llinell gymorth helpu, ond os bydd galar yn arwain at iselder parhaus neu deimladau hunanladdol, dylech ofyn am help gan eich meddyg.

Teimlo nad oes ystyr i fywyd mwyach

Efallai y bydd y farwolaeth wedi herio eich holl syniadau a’ch credoau am y byd a’ch lle chi ynddo. Gallwch golli ffydd yn eich barn eich hun a’i chael hi’n anodd ymddiried mewn pobl eraill. Os ydych yn grefyddol, efallai y gall eich addoldy helpu. Mae rhai pobl yn darganfod eu bod yn ailwerthuso eu bywydau o ganlyniad i farwolaeth, ac yn gwneud penderfyniadau am yr hyn sy’n bwysig iddynt a dod o hyd i ystyron newydd ar gyfer y dyfodol.