Galar cynnar

Sioc

Gall marwolaeth rhywun sy’n agos atoch chi fod yn sioc aruthrol. Mewn sioc, gallech deimlo’n grynedig, gallech ddioddef o ddiffyg teimlad a theimlo nad oes gennych gysylltiad â’r pethau o’ch amgylch; gallech gael anhawster i anadlu, efallai y bydd eich ceg sych, gallwch deimlo’n gyfoglyd, cael teimlad tyn yn y gwddf a’r frest, teimlo’n flinedig neu deimlad o wacter. Mae sioc yn gyffredin yn ystod y dyddiau a’r wythnosau yn union ar ôl y farwolaeth.

Diffyg teimlad

Dim ond yn araf y mae ein meddwl yn caniatáu i ni deimlo ein colled. Efallai y byddwch yn dioddef o ddiffyg teimlad ar ôl marwolaeth rhywun agos, a gall yr hyn sy’n digwydd ymddangos yn afreal. Gallech feddwl “all hyn ddim bod yn digwydd go iawn”. Gall y diffyg teimlad ynddo’i hun fod yn brofiad gofidus, er enghraifft os na allwch wylo yn yr angladd. Yn wir, mae’n ymateb cwbl normal sy’n eich diogelu rhag teimlo gormod o boen ar yr un pryd, a gall fod o help er mwyn gwneud y trefniadau ymarferol.

Anghrediniaeth

Mae’n naturiol ei chael hi’n anodd credu beth sydd wedi digwydd, a phan fydd marwolaeth yn annisgwyl, mae dirnad bod y golled yn barhaol yn anos byth. Ar un lefel rydych yn ‘gwybod’ bod yr unigolyn wedi marw, ond ar lefel arall, ddyfnach, gall ymddangos yn amhosibl derbyn na fydd y sawl a fu farw yn mynd i fod yno mwyach. Mae dryswch, panig ac ofn yn deimladau cyffredin. Bydd angen amser arnoch i ddod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd, ac efallai y gall siarad am y farwolaeth gyda phobl eraill helpu. Bydd yr angladd a defodau coffa eraill yn eich helpu i dderbyn realiti’r farwolaeth.

Chwilio

Weithiau bydd y diffyg teimlad a’r sioc yn cael eu disodli gan deimlad o golled ddwys, ac mae llawer o bobl mewn profedigaeth yn chwilio’n reddfol am y sawl y maent wedi’i golli: maent yn galw ei enw, yn siarad â’i lun, yn breuddwydio bod yr unigolyn yn ôl neu’n edrych amdano ar y stryd. Efallai y byddwch yn ‘gweld’ y sawl a fu farw, neu’n ei glywed yn siarad â chi, ac yn ofni eich bod yn drysu, ond mae’r rhain yn brofiadau cyffredin ar ôl cael profedigaeth.

Ing a hiraeth

Wrth i chi ddechrau teimlo’r golled, mae hiraethu am y sawl a fu farw yn gyffredin. Gall dwyster y teimladau pwerus i weld a bod gyda’r sawl a fu farw ac i gyffwrdd a siarad ag ef fod yn frawychus. Gall yr hyn a ddigwyddodd droi a throi yn eich meddwl, neu gallech siarad am y sawl a fu farw yn barhaus. Mae’r angen i siarad am rywun ar ôl iddo farw yn rhan o’r frwydr naturiol o ddod i delerau â’r golled.

Straen meddyliol ac emosiynol

Mae marwolaeth rhywun sy’n agos atoch chi yn gallu bod yn straen fawr, a gall hynny ddod i’r amlwg yn gorfforol ac yn emosiynol. Mae aflonyddwch, diffyg cwsg a blinder yn gyffredin, yn ogystal â breuddwydion byw ac anhawster wrth ganolbwyntio neu gofio pethau. Efallai y cewch benysgafndod, dychlamiadau (palpitations) neu anhawster wrth anadlu. Gall poen emosiynol dwys ddod law yn llaw â symptomau corfforol fel cur pen/pen tost; colli archwaeth bwyd, cyfog a dolur rhydd, ac i fenywod, gallu amharu ar eu cylch mislif arferol. Bydd hefyd yn effeithio ar ddiddordeb mewn rhyw.

Mae effeithiau corfforol galar fel arfer yn diflannu gydag amser.

Ymadrodd cyffredin gan bobl ar gam cynnar mewn profedigaeth ywRwy’n teimlo fel fy mod i’n mynd yn wallgof.” Mae’r boen a’r emosiynau sy’n dod law yn llaw â’r brofedigaeth mor ddwys fel nad yw’n ymddangos yn bosibl i fod dynol eu goroesi. Gallwch gredu eich bod yn mynd yn wallgof neu o leiaf ar fin gwneud hynny, ond nid dyma’r sefyllfa Rydych yn cael yr adweithiau corfforol a seicolegol arferol sy’n gysylltiedig â cholled drom.1

Ar ôl y farwolaeth, gallech deimlo wedi’ch llethu ac na fyddwch byth yn gallu ymdopi. Peidiwch â disgwyl gormod ohonoch chi eich hun. Ceisiwch beidio â meddwl gormod am y dyfodol, ond canolbwyntio ar un diwrnod ar y tro. Derbyniwch help gan ffrindiau neu berthnasau a gofynnwch am help ychwanegol os bydd ei angen arnoch (er enghraifft, rhywun i’ch gyrru i apwyntiadau). Bydd pethau’n debygol o wella gydag amser.

1. The grief of the newly bereaved. Margaret Gerner (1991). The Compassionate Friends Newsletter, summer edition.