Sut y gallaf ymdopi â’m galar? 

Dyma rai awgrymiadau o bethau a allai fod yn ddefnyddiol. 

  • Neilltuwch amser bob dydd i alaru, er mwyn i chi allu wylo, cofio am y sawl a fu farw, gweddïo neu fyfyrio. 
  • Cadwch gofnod o’ch teimladau, eich meddyliau a’ch atgofion. Gall ysgrifennu eich helpu i gael rheolaeth dros emosiynau dwys. Os byddwch yn ysgrifennu rhai o’r syniadau obsesiynol sy’n dod i’ch meddwl, gallent golli rhywfaint o’u grym. 
  • Gofalwch amdanoch chi eich hun. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digon o orffwys a’ch bod yn bwyta’n dda. Pan fo modd, neilltuwch amser i wneud y pethau roeddech yn arfer eu mwynhau. Nid yw hyn yn golygu eich bod yn annheyrngar a bydd yn eich helpu i ymdopi â’ch galar. 
  • Bydd ymarfer corff fel arfer yn eich helpu i deimlo’n well yn emosiynol ac yn flinedig yn gorfforol felly byddwch yn cysgu’n well. 
  • Gall myfyrio, technegau ymlacio, tylino a gwrando ar gerddoriaeth helpu i leihau’r straen emosiynol a chorfforol a ddaw yn sgil profedigaeth. 
  • Mae rhai pobl yn teimlo ei bod yn ddefnyddiol mynegi eu teimladau drwy ysgrifennu barddoniaeth neu baentio. Gall gweithgareddau creadigol eraill fel gwnïo, coginio, garddio neu waith coed eich helpu i wella ac adfer hefyd. 
  • Ceisiwch osgoi gwneud penderfyniadau mawr fel symud tŷ neu gael gwared ar eiddo’r sawl a fu farw yn union ar ôl y farwolaeth. Efallai na fyddwch yn meddwl yn glir a gallech wneud rhywbeth y byddwch yn edifar amdano yn ddiweddarach. 
  • Gall pen-blwydd, gwyliau ac adeg y flwyddyn pan ddigwyddodd y farwolaeth fod yn anodd, ond weithiau gall meddwl am y diwrnod fod yn waeth na’r diwrnod ei hun. Siaradwch ag aelodau eraill o’r teulu a chynlluniwch sut yr ydych yn bwriadu treulio’r diwrnod. Gallwch benderfynu gwyro oddi wrth eich traddodiadau arferol neu neilltuo rhan o’r diwrnod i gofio am y sawl a fu farw mewn ffordd arbennig. 
  • Cofiwch y gallech fynd drwy gyfnod isel ar ôl y farwolaeth pan fydd y gwaith o gynllunio ar gyfer yr angladd ac ymdrin â busnes y sawl a fu farw wedi dod i ben. Gofynnwch am help os bydd ei angen arnoch. Gall galar ailgodi ymhen blynyddoedd, ar ôl colled arall efallai, neu os bu i chi golli rywun tra roeddech yn blentyn. 
  • Ceisiwch beidio â throi at alcohol neu gyffuriau fel ffordd o leddfu eich tristwch. Er y gallent gynnig rhyddhad yn y tymor byr o deimladau poenus, maent yn llesteirio’r galar a gallant achosi iselder a salwch. Os byddwch yn defnyddio alcohol neu gyffuriau yn y ffordd hon, gofynnwch am help, gan eich meddyg yn y lle cyntaf, neu cysylltwch â sefydliad fel Alcoholics Anonymous neu Narcotics Anonymous (gweler Ffynonellau cymorth a gwybodaeth). 
  • Os ydych yn teimlo’n isel (a allai arwain at ddiffyg cwsg rheolaidd, diffyg archwaeth bwyd, diffyg egni a diddordeb, teimladau hunanladdol, a symptomau eraill), mae’n bwysig gofyn am help gan eich meddyg. 

Teulu

Gall profedigaeth ddod â theulu ynghyd i rannu eu poen ac i gysuro a chefnogi ei gilydd, ond gall fod yn anodd os bydd aelodau o’r teulu’n galaru mewn gwahanol ffyrdd neu’n beio’r naill a’r llall am y farwolaeth. 

Weithiau gall menywod fynegi eu galar mewn ffordd sy’n fwy agored yn emosiynol – drwy wylo, siarad am eu teimladau ac am y sawl a fu farw, a mynd dros yr hyn a ddigwyddodd i geisio’i ddeall. Gall dynion ymdrin â’u galar drwy ddatrys problemau – canolbwyntio ar weithgareddau ymarferol a theimlo’r angen i fod yn gryf er lles gweddill y teulu. Gall hwyliau plant newid yn gyflym o fod yn drist un funud i fod yn chwerthin ac yn chwarae y funud nesaf. Gall y glasoed gau eu hunain yn eu hystafelloedd neu fynegi eu teimladau drwy ymddwyn yn ddi-hid. Efallai y bydd angen cymorth arbennig ar aelodau iau o’r teulu (gweler Pobl mewn profedigaeth a chanddynt anghenion penodol). 

Ceisiwch fod yn amyneddgar gan siarad a deall eich gilydd a siarad am eich teimladau. Mae pawb yn galaru mewn ffordd wahanol, ac os bydd rhywun yn gwneud hynny mewn ffordd wahanol i chi, nid yw hynny’n golygu nad ydynt yn malio. Ceisiwch beidio â chymharu’r galar. 

Ffrindiau

Gall ffrindiau fod yn ffynhonnell gymorth wych, er enghraifft, gyda phethau ymarferol yn union ar ôl y farwolaeth pan all fod yn amhosibl i chi ymdopi â bywyd bob dydd ac er mwyn siarad am y sawl a fu farw. Weithiau, gall ffrindiau ei chael hi’n anodd gwybod beth i’w wneud gan fod arnynt ofyn eich cynhyrfu. 

Gallwch wneud pethau’n haws iddynt drwy roi gwybod iddynt beth y gallant ei wneud i’ch helpu chi, pryd yr ydych eisiau siarad a phryd yr ydych am fod ar eich pen eich hun. Gall rhai ffrindiau fod mor awyddus i helpu nes eu bod yn mynnu siarad am eich colled hyd yn oed pan na fyddwch chi am wneud hynny. Os bydd hyn yn digwydd, dywedwch rywbeth fel: “Dw i ddim eisiau gwrando ar neb arall yn siarad am hyn ar hyn o bryd”. Cofiwch, nid oes rhaid i chi gymryd y cyngor y bydd ffrindiau’n ei gynnig i chi – chi ddylai benderfynu beth rydych chi am ei wneud. 

Os byddwch yn teimlo na all eich teulu a’ch ffrindiau roi’r holl gymorth sydd ei angen arnoch, mae help arall ar gael (gweler ein Cyfeiriadur Gwasanaethau isod). 

Y dyfodol

Mae’r amser y mae pobl yn ei gymryd i alaru dros rywun agos yn wahanol i bawb. Bydd rhai teimladau, fel hiraethu am y sawl a fu farw, na fyddant byth yn diflannu’n gyfan gwbl, ond mae’r boen yn pylu gydag amser. Rhan bwysig o ailadeiladu eich bywyd yw derbyn bod y farwolaeth wedi digwydd ac nad yw’r unigolyn hwnnw’n dod yn ôl. Yn raddol gall y pethau da am yr unigolyn pan oedd yn fyw ddechrau dod yn bwysig, yn ogystal â’i farwolaeth. Er na fydd bywyd byth yr un fath eto, i’r rhan fwyaf o bobl bydd amser pan fyddant yn dechrau mwynhau byw eto. Pan fydd pethau’n ymddangos yn llwm iawn mae’n bwysig byw o ddydd i ddydd ond cofio y bydd pethau’n newid yn y dyfodol a bod help ar gael os bydd ei angen.