Heddlu a staff carchardai

Pan fydd rhywun yn marw yn y ddalfa, mae’n bwysig bod yn agored gyda’i deulu a’i ffrindiau, oherwydd mae gwybod beth sydd wedi digwydd, a deall hynny, yn rhan o’r broses alaru.

Gall hunanladdiad aelod o’r teulu neu ffrind sydd yn y carchar fod yn arbennig o anodd, yn arbennig oherwydd y stigma a’r anawsterau gwirioneddol neu dybiedig ynglŷn â chael gwybodaeth. Mae tystiolaeth yn dangos bod y cyswllt cyntaf gyda’r teulu yn gallu effeithio ar eu hymateb dilynol. Mae rôl swyddog cyswllt teulu y carchar yn arbennig o bwysig ar gyfer hyn, yn arbennig hysbysu’r teulu am y farwolaeth mewn ffordd sensitif, rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl am yr hyn sydd wedi digwydd a dweud pryd y bydd gwybodaeth bellach ar gael. Mewn sefyllfa pan fydd prosesau neu weithdrefnau wedi bod ar fai mewn rhyw ffordd, bydd y teulu a’r ffrindiau yn awyddus i’r cyfrifoldeb hwn gael ei gydnabod, a derbyn ymddiheuriad pan fydd hynny’n briodol a’r gwersi i’w dysgu.

Mae hunanladdiad yn y ddalfa yn cael effaith ar y staff hefyd. Efallai y byddant wedi darganfod y person yn marw neu eisoes wedi marw, efallai eu bod wedi ceisio dadebru’r unigolyn neu wedi helpu staff gofal iechyd gyda chymorth cyntaf.

Ar ôl achos o hunanladdiad yn y ddalfa, mae staff wedi pwysleisio pwysigrwydd cymorth gan gymheiriaid. Efallai y byddant yn dymuno cael seibiant o’r cyswllt wyneb yn wyneb gyda charcharorion, yn hytrach na chael amser i ffwrdd o’r gwaith, a allai wneud iddynt deimlo wedi’u hynysu oddi wrth eu cydweithwyr a bod yn faich ar eu teuluoedd.

Dylid sicrhau bod y staff yn cael yr hyfforddiant mwyaf cyfredol ar ymwybyddiaeth o hunanladdiad, cymorth cyntaf a dadebru, er mwyn iddynt deimlo’n hyderus eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i achub bywyd yr unigolyn.

Mae rhoi gwybodaeth i staff am weithdrefnau’r cwest hefyd yn bwysig, oherwydd mae rhai aelodau o staff wedi teimlo pryder o’r newydd wrth ateb cwestiynau ym mhresenoldeb teulu’r sawl a fu farw.

Mae gan garchardai yng Nghymru a Lloegr dimau gofal gwirfoddol lleol sy’n darparu cyswllt cefnogol ar unwaith. Mae gwasanaeth gofal a lles cenedlaethol ar gyfer staff yn darparu gwasanaethau proffesiynol cyfrinachol ac annibynnol.

Efallai y bydd carcharorion eraill yn teimlo sioc a gofid ar ôl achos o hunanladdiad a dylid rhoi cymorth iddynt cyn gynted â phosibl ar ôl y farwolaeth. Efallai y byddant yn awyddus i siarad â’r staff a dylid rhoi cyngor iddynt am y cymorth pellach sydd ar gael os bydd ei angen arnynt.

SSHP Cymru wedi’i anelu at unrhyw un sy’n chwilio am gyfleoedd hyfforddi a datblygu a fydd yn gallu eu helpu nhw, eu cymunedau neu eu gweithluoedd i gynyddu eu hymwybyddiaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau mewn cysylltiad â rheoli ac atal hunanladdiad a hunan-niwed.