Staff practis cyffredinol
Mae llawer o’r materion uchod yn berthnasol i staff practis cyffredinol. Efallai eu bod yn adnabod y sawl a fu farw ers nifer o flynyddoedd ac yn adnabod y teulu a’r ffrindiau hefyd o bosibl. Os felly, maent mewn sefyllfa dda i ddarparu cymorth. Weithiau, bydd pobl mewn profedigaeth yn gwerthfawrogi’r cyfle i drafod y farwolaeth gyda’u meddyg, yn y cartref yn ddelfrydol.
Ar ôl hunanladdiad, dylai’r tîm gofal sylfaenol gynnal cyfarfod staff i drafod y farwolaeth, gweld beth y gellir ei ddysgu a darparu cymorth cymheiriaid i’r tîm.
SSHP Cymru wedi’i anelu at unrhyw un sy’n chwilio am gyfleoedd hyfforddi a datblygu a fydd yn gallu eu helpu nhw, eu cymunedau neu eu gweithluoedd i gynyddu eu hymwybyddiaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau mewn cysylltiad â rheoli ac atal hunanladdiad a hunan-niwed.