Beth yw galar?
Ar ôl i rywun agos farw, mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo galar ac yn mynd drwy gyfnod galaru. Mae nifer o ffactorau’n dylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn galaru, fel eu perthynas â’r sawl a fu farw, eu personoliaeth a’u dull ymdopi, oedran, rhyw, credoau crefyddol, cefndir diwylliannol, profiad blaenorol o golled, math arall o straen a’r math o gymorth sydd ar gael. Er bod pawb yn galaru yn ei ffordd ei hun, awgrymwyd bod pedair ‘tasg’ yn gysylltiedig â galaru1.
- Derbyn realiti’r golled – sylweddoli bod yr unigolyn wedi marw ac na fydd yn dod yn ôl. Gall gweld y corff a defodau fel angladd wneud hyn yn haws.
- Ymdopi â phoen galar – caniatáu amser i fynegi teimladau ac emosiynau. Gall ceisio osgoi neu fygu teimladau wneud y broses alaru’n anos yn y tymor hir.
- Dysgu byw heb y sawl a fu farw – gall hyn gynnwys ymgymryd â rolau newydd neu ddysgu sgiliau newydd.
- Symud ymlaen gyda bywyd – dod o hyd i le newydd yn eich bywyd emosiynol ar gyfer y sawl a fu farw er mwyn i chi allu addasu i ddyfodol gwahanol heb ei bresenoldeb.
Gellir rhannu’r teimladau a’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â galaru yn ddau brif fath o brofiad:2
- Colled – y teimladau a’r emosiynau a ddaw yn sgil y brofedigaeth a’r angen i ddod i delerau â marwolaeth yr unigolyn.
- Adferiad – y pethau y mae pobl yn eu gwneud i ailadeiladu eu bywydau, fel rhoi trefn ar faterion y sawl a fu farw, mynd yn ôl i’r gwaith, ailgydio mewn gweithgareddau cymdeithasol a dysgu sgiliau newydd i ymdrin â’u sefyllfa newydd.
Mae’r ddau brofiad yn agweddau pwysig ar alaru, ac fel arfer mae pobl yn symud rhwng y ddau, yn cynnwys cael cyfnodau o seibiant pan fydd eu galar wedi’i ‘ohirio’. Gall y ffordd y cafodd pobl eu magu ddylanwadu ar y ffordd y maent yn galaru. Er enghraifft, gall rhai dynion ymdrin â’u galar drwy ganolbwyntio ar y materion ymarferol, tra bydd menywod yn fwy tebygol o fynegi colled drwy wylo, siarad a rhannu eu teimladau.
Nid oes ffordd gywir na ffordd anghywir o alaru.
Yn yr adran hon mae disgrifiadau cyffredin o brofiadau a ddaw yn sgil profedigaeth, a gallech deimlo pob un o’r rhain neu rai ohonynt, ar wahanol adegau.
1. Grief counselling and grief therapy. A handbook for the mental health practitioner. J. William Worden (2004, 3ydd argraffiad). Hove: Brunner-Routledge.
2. The dual process model of coping with bereavement: rationale and description. M. Stroebe a H. Schut (1999). Death Studies 23, t.197–224.