Sut y gall cyflogwyr a chydweithwyr helpu
Gall dychwelyd i’r gwaith fod yn anodd iawn i bobl mewn profedigaeth. Dylent ddychwelyd dim ond pan fyddant yn teimlo y gallant wneud hynny ac efallai y byddai’n well ganddynt weithio oriau hyblyg neu’n rhan amser am gyfnod. Dylai cyflogwyr a chydweithwyr fod yn gydymdeimladol ac yn ymwybodol o angen y person i gael amser i ffwrdd o’r gwaith, i fynychu cwest neu i gael gwasanaeth cwnsela o bosibl.
Gall fod yn anodd i bobl mewn profedigaeth ganolbwyntio a gallai fod yn anoddach iddynt asesu sefyllfaoedd cymhleth ac ymateb mor gyflym ag o’r blaen, a gall hyn arwain at ddiffyg hyder. Drwy ddangos dealltwriaeth a chydnabod eu colled, gallwch wneud cyfraniad sylweddol i’w helpu i adennill hyder yn eu gallu eu hunain i ymdopi.
Efallai bod gan rai pobl mewn profedigaeth swyddi lle maent yn gweithio gyda phobl sy’n profi problemau a thrawma (er enghraifft staff gofal iechyd, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal a’r heddlu) a gall hyn fod yn anodd iawn ar ôl profedigaeth. Efallai y byddant yn teimlo’n fregus a bod problemau pobl eraill yn pwyso’n drwm iawn arnynt. Gall hyn ddwysáu eu galar eu hunain ac effeithio ar eu gallu i fod yn wrthrychol yn eu gwaith. Byddwch yn gydymdeimladol ac yn sensitif i’r teimladau hyn.
Weithiau bydd yn haws i berson mewn profedigaeth siarad â phobl nad oes ganddynt gysylltiad agos â’r farwolaeth ac efallai y bydd yn siarad am hyn gyda chi neu gydweithwyr eraill. Efallai y bydd hyn yn gwneud i chi deimlo’n annifyr a chwithig, ond gallwch helpu drwy fod yn wrandäwr da, nid drwy roi cyngor, a thrwy sôn am y farwolaeth yn hytrach na’i hosgoi.
Os bydd rhywun sy’n gweithio mewn amgylchedd gwaith bach a chlos yn lladd ei hun, mae hyn yn debygol o effeithio ar y grŵp cyfan. Efallai y bydd yn rhaid i gydweithwyr ymgymryd â baich gwaith y sawl a fu farw, ar adeg pan fyddant hwythau mewn trallod ac nad ydynt yn gweithredu yn ôl eu harfer. Mae’n bwysig eich bod yn sensitif i anghenion eich gilydd, gan dderbyn y bydd pawb yn ymateb mewn ffyrdd gwahanol.
Weithiau gellir cynnig gwasanaeth cwnsela proffesiynol ar sail grŵp neu unigolion, ond heb unrhyw bwysau ar unrhyw un i fynychu’r sesiynau hyn. Mae gan rai galwedigaethau linellau cymorth cyfrinachol penodol sy’n gallu cynnig cymorth i bobl yn y sefyllfa hon. Efallai y gall adrannau Iechyd Galwedigaethol ac Adnoddau Dynol ddarparu mynediad hefyd i gymorth.
Gallai’r adran ar ‘Sut y gall ffrindiau helpu’ fod yn ddefnyddiol i gydweithwyr hefyd.