Beth gallaf ei wneud?
Yn syml, gallwch helpu drwy fod gyda’ch ffrind, ei gofleidio/chofleidio o bosibl neu fynd am dro gydag ef/hi. Un o’r pethau pwysicaf yw gwrando. Gadewch i’ch ffrind siarad pan fydd yn teimlo’n barod i siarad. Byddwch yn amyneddgar a byddwch yn barod i glywed yr un stori’n cael ei hailadrodd nifer o weithiau.
Dylech osgoi rhoi cyngor ar sut y dylai eich ffrind fod yn teimlo neu ymddwyn. Mae pobl yn galaru mewn gwahanol ffyrdd. Mae’n well gan rai pobl gadw draw oddi wrth bobl eraill a galaru mewn preifatrwydd, tra bydd eraill yn croesawu cwmni a’r cyfle i siarad. Os na fydd eich ffrind yn awyddus i siarad, dylech barchu hyn a pheidio â thybio nad yw’n galaru am nad yw’n dangos y galar yn gyhoeddus. Nid oes amser ‘penodedig’ ar gyfer galaru. Gall rhai pobl barhau i fyw eu bywydau yn gymharol gyflym, a gall hyn gymryd mwy o amser i bobl eraill.
Ni ddylech gynnig alcohol neu gyffuriau i’w helpu i ymdopi â’r galar. Os bydd angen meddyginiaeth, dylai gael ei rhagnodi gan feddyg eich ffrind.
Efallai y bydd angen gofal arbennig ar blant mewn profedigaeth, yn arbennig os bydd eu rhieni yn cael anhawster i ymdopi â’u galar eu hunain. Gall fod hyd yn oed yn anoddach iddynt os bydd pobl yn gofyn sut mae eu rhieni yn ymdopi, neu’n dweud pethau fel “edrych ar ôl dy fam”, heb sylweddoli bod angen cymorth arnynt hwy hefyd.
Os byddwch yn cael anhawster i ddelio ag emosiynau, efallai y byddai’n well gennych gynnig cymorth ymarferol. Gallai hyn gynnwys gwneud prydau bwyd, mynd ar neges, gofalu am blant a helpu gyda threfniadau. Efallai y bydd eich ffrind yn gofyn i chi fynd gyda ef/hi i weld y corff neu i’r cwest. Peidiwch â cheisio cymryd drosodd – dylech adael i’ch ffrind wneud cymaint ag y mae’n teimlo y gall ymdopi ag ef. Dylai allu gwneud y pethau y mae am eu gwneud, nid beth mae pobl eraill eisiau iddo/iddi ei wneud.
Gallech gynnig dod o hyd i fwy o wybodaeth am hunanladdiad ac asiantaethau cymorth os byddai eich ffrind am i chi wneud hynny. Efallai bod yna grŵp cymorth lleol ar gyfer pobl mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad. Bydd rhai pobl yn cael cysur o fod yng nghwmni pobl eraill sydd wedi cael profiadau tebyg, ond ni fydd pob unigolyn mewn profedigaeth yn teimlo’n gyfforddus mewn grŵp, felly gadewch i’ch ffrind wneud ei benderfyniad/ phenderfyniad ei hun.