Yr angladd
Mae llawer o wahanol arferion a defodau ar gyfer cydnabod marwolaeth. Caiff llawer o bobl fudd o gael angladd oherwydd mae’n rhoi cyfle iddynt ffarwelio â’r sawl a fu farw, dathlu ei fywyd a rhannu meddyliau a theimladau am yr unigolyn gyda ffrindiau a theulu a dechrau derbyn realiti’r golled.
Mae gwybodaeth am fanylion ymarferol trefnu angladd ar gael ar y wefan Direct Gov: https://www.gov.uk/after-a-death/overview
Gweld y corff
Pan fydd corff wedi’i ryddhau i’w gladdu neu’i amlosgi, mae’n bosibl gweld y sawl a fu farw yn adeilad y trefnydd angladdau. Weithiau, bydd teulu’n trefnu i’r corff ddod adref y diwrnod cyn yr angladd er mwyn i ffrindiau a pherthnasau allu dod i’r tŷ i ddangos parch ac i ffarwelio. Gall gweld y corff helpu pobl i ddechrau derbyn beth sydd wedi digwydd a wynebu realiti’r farwolaeth.
Mae’n naturiol pryderu ynghylch sut olwg fydd ar y corff, ond yn aml mae’r hyn y byddwn yn ei ddychmygu yn waeth na’r realiti. Gallech ofyn i staff y corffdy neu’r trefnydd angladdau ddweud wrthych am gyflwr y corff, neu gallech ofyn i ffrind fynd i mewn yn gyntaf a dweud wrthych beth i’w ddisgwyl. Os bydd yr unigolyn wedi cael ei anffurfio efallai y bydd rhan o’r corff wedi’i orchuddio. Gallwch hefyd ofyn am luniau i’ch helpu i benderfynu. Cofiwch mai eich penderfyniad chi yw gweld yr unigolyn hwn am y tro olaf, a’ch penderfyniad chi yn unig. Os penderfynwch nad ydych am weld y corff, gallwch gadw’r lluniau rhag ofn y byddwch am edrych arnynt yn y dyfodol.
Trafodir p’un a ddylai plant weld y corff mewn adran wahanol ar blant o dan ‘Pobl mewn profedigaeth a chanddynt anghenion penodol’.
Y seremoni
Os oes angen help arnoch i benderfynu pa fath o seremoni i’w chael, siaradwch â’r teulu, eich ffrindiau, eich gweinidog (os oes gennych un) neu’r trefnydd angladdau, a fydd yn fwy na pharod i’ch helpu. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi gadw’r canlynol mewn cof:
- A oedd y sawl a fu farw wedi dweud pa fath o angladd yr hoffai ei gael?
- A ydych am gael angladd bach, preifat ynteu seremoni gyhoeddus fawr?
- A ydych eisiau seremoni grefyddol?
- A ydych am i’r corff gael ei gladdu ynteu’i amlosgi? (Bydd angen i swyddfa’r crwner wybod hyn cyn gynted â phosibl er mwyn trefnu’r gwaith papur)
- Beth y dylid ei ddweud yn yr angladd, a phwy a ddylai gymryd rhan weithredol yn y seremoni?
Gall trefnydd angladdau eich helpu i wneud y trefniadau, neu os penderfynwch drefnu’r angladd eich hun gallwch gael cyngor gan y Natural Death Centre.
Beth fydd y trefnydd angladdau yn ei wneud?
Gall y trefnydd angladdau fynd â’r corff i’w adeilad, lle y gallwch weld y corff. Gall y trefnydd angladdau drefnu’r amlosgi neu’r claddu, rhoi cyhoeddiadau am y farwolaeth mewn papurau newydd, trefnu hers i gludo’r galarwyr i’r angladd a’ch helpu i drefnu agweddau eraill ar yr angladd fel blodau, cerddoriaeth a thaflenni gwasanaeth. Bydd rhai pobl am anfon y corff i’r wlad yr oedd y sawl a fu farw’n hanu ohoni i’w gladdu, a bydd y trefnydd angladdau’n helpu i wneud y trefniadau hyn.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddewis trefnydd angladdau a’r gwasanaethau a gynigir ganddynt gan Gymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau. Mae rhai trefnwyr angladdau’n arbenigo mewn trefnu angladdau i grwpiau ffydd penodol, a dylech allu dod o hyd i’r rhain drwy eich cyfeirlyfr ffôn lleol neu’ch papur newydd cymunedol, neu drwy eich arweinydd crefyddol lleol.
Sut y byddaf yn talu am yr angladd?
Gall angladd fod yn ddrud iawn, ac fel arfer telir amdano o ystâd y sawl a fu farw (hynny yw ei arian a’i eiddo). Gall fod yn bosibl i arian gael ei ryddhau o gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu’r unigolyn, ond fel arfer y teulu fydd yn talu am yr angladd ac yn cael yr arian yn ôl wedyn. Mae rhai trefnwyr angladdau’n fodlon derbyn taliadau fesul tipyn.
Os oedd y sawl a fu farw’n gweithio, efallai y bydd taliad marw-yn-y-swydd neu gronfa les yn ddyledus. Mae rhai cynlluniau pensiwn yn talu cyfandaliad ar gyfer costau angladd. Efallai y bydd gan y sawl a fu farw gynllun angladd wedi’i dalu ymlaen llaw neu bolisi yswiriant i dalu cost yr angladd.
Os na allwch fforddio talu am yr angladd, bydd eich swyddfa nawdd cymdeithasol leol yn gallu egluro’r sefyllfa i chi mewn perthynas â chael cymorth ariannol gyda chostau angladd (os yn berthnasol). Gall y cyngor lleol, neu’r awdurdod iechyd mewn rhai achosion, dalu am yr angladd, ond dim ond mewn achosion lle nad yw hynny eisoes wedi’i drefnu.