Yr ewyllys a’r ystâd
Bydd angen i chi ddarganfod a oedd gan y sawl a fu farw ewyllys ac os felly, pwy yw’r ysgutor (gelwir hwn yn gynrychiolydd personol hefyd). Yr ysgutor sy’n gyfrifol am dalu unrhyw ddyledion, treth a threuliau (yn cynnwys treuliau’r angladd) o ystâd y sawl a fu farw neu o’r hyn sy’n cael ei adael yn yr ewyllys.
Beth sy’n digwydd os nad oes ewyllys?
Mae rheolau ynghylch sut y dylid rhannu ystâd y sawl a fu farw rhwng y perthnasau sy’n fyw. Os nad oes ewyllys, ond bod gan y sawl a fu farw arian ac eiddo, dylech wneud cais i’r Gofrestrfa Profiant am awdurdod cyfreithiol i ddelio â’r ystâd.
Gallwch gyflogi cyfreithiwr i wneud hyn ar eich rhan, neu i roi cyngor i chi. Mae’n helpu i gasglu’r holl ddogfennau ynghyd a gwneud rhestr o gwestiynau cyn i chi weld y cyfreithiwr, er mwyn arbed amser ac arian.
Rhif llinell gymorth profiant a threth etifeddiant yw:
0300 123 1072
www.gov.uk/browse/tax/inheritance-tax
Pwy y dylwn ei hysbysu am y farwolaeth?
Bydd angen i chi ddweud wrth amrywiol bobl a sefydliadau bod yr unigolyn wedi marw. Gall fod o gymorth cadw cofnodion personol ac ariannol fel tystysgrifau geni, priodas a marwolaeth; trwydded yrru; pasbort; polisïau yswiriant; a dogfennau bancio a dogfennau eraill gyda’i gilydd mewn ffeil. Mae dwy ffurflen – rhestr o sefydliadau cyffredin i gysylltu â nhw (ni fydd pob un yn berthnasol a gallech ddod o hyd i rai eraill pan fyddwch yn mynd drwy bapurau’r sawl a fu farw) a ffurflen y gallech ei defnyddio i anfon gwybodaeth atynt – yng nghefn y canllaw hwn2. Efallai y byddwch am lungopïo’r ffurflenni hyn.
Gallwch hefyd gysylltu â’r Gofrestr Profedigaeth, a fydd yn trefnu i enw’r sawl a fu farw gael ei dynnu oddi ar restrau postio a chronfeydd data yn y DU, fel gwasanaeth am ddim. Ni fydd hyn yn atal post swyddogol fel cyfriflenni banc a ffurflenni treth, felly bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r sefydliadau sy’n anfon y rhain eich hun.
Polisïau yswiriant
Mae gan rai polisïau yswiriant bywyd gymal eithrio sy’n nodi na ellir gwneud hawliad os bydd rhywun yn marw drwy hunanladdiad o fewn cyfnod penodol o amser ar ôl i’r polisi gael ei drefnu.
Fel arfer mae’r cyfyngiadau hyn yn y print mân; fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o gwmnïau yswiriant yn ymdrin yn sensitif â hyn.