Cymorth wrth law Cymru
![A fingerprint icon with the following words between the lines: help is at hand, trauma informed, kindness, comfort, ripple effect, peer support, coming alongside...](https://www.sshp.wales/wp-content/themes/sshp-1.5.2/img/hiah-fingerprint-translated.png)
Mae’r canllaw hwn wedi’i anelu at ystod eang o bobl y mae hunanladdiad neu farwolaeth anesboniadwy yn effeithio arnynt.
Ei nod yw helpu pobl sydd mewn profedigaeth yn annisgwyl oherwydd hynny. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n dod i gysylltiad â phobl mewn profedigaeth, i’w cynorthwyo i roi help iddynt ac i awgrymu sut y gallent hwy eu hunain gael cymorth os bydd ei angen arnynt.
![A fingerprint icon with the following words between the lines: help is at hand, trauma informed, kindness, comfort, ripple effect, peer support, coming alongside...](https://www.sshp.wales/wp-content/themes/sshp-1.5.2/img/hiah-fingerprint-translated.png)
-
Materion ymarferol
Mae’r adran hon yn disgrifio’r gwahanol weithdrefnau a allai ddigwydd ar ôl marwolaeth, fel ymchwiliad yr heddlu, cwest y crwner, yr angladd, sylw yn y cyfryngau, ewyllysiau a phwy y dylid ei hysbysu am y farwolaeth. Ceir awgrymiadau ymarferol ynghylch sut i ymdrin â hyn oll.
-
Cael profedigaeth
Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar y brofedigaeth ac yn disgrifio rhai o’r teimladau a’r emosiynau sy’n berthnasol i brofedigaeth oherwydd hunanladdiad yn benodol. Ceir awgrymiadau ynghylch sut i ymdopi hefyd.
-
Sut y gall ffrindiau a chydweithwyr helpu
Mae’r adran hon yn rhoi arweiniad ar y ffordd orau o helpu a chefnogi pobl mewn profedigaeth.
-
Pobl mewn profedigaeth a chanddynt anghenion penodol
Mae pawb sydd wedi cael profedigaeth yn mynegi eu galar yn eu ffordd eu hunain, ond yn union fel y mae materion penodol sy’n gysylltiedig â phrofedigaeth oherwydd hunanladdiad a marwolaeth drawmatig annisgwyl, ceir materion penodol sy’n ymwneud â phobl benodol.
-
Effaith hunanladdiad ar weithwyr proffesiynol a darparwyr gofal
Mae’r adran hon yn trafod sut y gall gweithwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill helpu a chefnogi pobl mewn profedigaeth, sut y gallai hynny effeithio arnynt, sut y gallant gefnogi ei gilydd a sut y gall effeithio ar bobl eraill dan eu gofal.
![Welsh Government Offical logo](https://sshp.wales/wp-content/uploads/2023/04/WG_positive_40mm-png-logo.png)
Mae’r adnodd hwn wedi cael ei ddatblygu i gefnogi darpariaeth strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed Llywodraeth Cymru