Awgrymiadau i’ch helpu drwy’r cyfnod anodd hwn
Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu drwy’r cyfnod anodd hwn:
Beth oedd yn ddefnyddiol
Dyma rai sylwadau gan bobl ifanc yn eu harddegau sydd wedi cael profedigaeth oherwydd hunanladdiad.
- Ysgrifennu dyddiadur
- Ffrindiau sy’n gwrando waeth beth yw’r sefyllfa; nad ydynt yn esgus deall; a oedd yn adnabod y person a fu farw; sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg; sydd hefyd yn galaru
- Siarad â rywun sy’n gwybod am hunanladdiad
- Pobl yn rhoi eu hamser i mi
- Defodau megis gwasanaethau coffa
- Chwarae ei hoff gân
- Gwneud llun o’r unigolyn
- Cardiau gan ffrindiau a ffrindiau yn galw i’m gweld
- Treulio amser ar fy mhen fy hun yn fy ystafell
- Gwrando ar gerddoriaeth
- Gwasanaeth iechyd myfyrwyr
- Cwnselwyr yr ysgol
Beth nad oedd yn ddefnyddiol:
- Pwysau i astudio a gwaith ysgol
- Ffrindiau nad ydynt yn deall neu sy’n rhagrithiol, sy’n dweud eu bod yn deall pan fyddwch yn gwybod nad ydynt yn deall
- Athrawon sy’n meddwl eu bod yn deall; bod yn swnllyd; rhoi pwysau arnoch; bod yn ansensitif
- Pobl yn holi cwestiynau; yn mynnu atebion pan nad ydych yn teimlo fel siarad; yn dweud “cwyd dy galon”; hel straeon; yn rhoi eu troed ynddi
- Rhieni sy’n dweud na ddylech wylo
Beth y byddech wedi’i hoffi
- Rhieni sy’n ymlacio
- Pobl nad oes arnynt ofn crybwyll enw’r person a siarad amdanynt
Beth oedd fwyaf anodd:
- Disgwyl i chi ‘ddychwelyd i normal’ ar ôl cyfnod penodol, er enghraifft chwe mis
- Bod yn y lle yr oedd y sawl a fu farw’n arfer byw ond nad yw yno
- Mynd heibio’r lle y bu farw
- Gwerthu a symud ei ddillad a’i eiddo
- Peidio â gallu siarad am y peth oherwydd ei fod wedi digwydd amser maith yn ôl ac nid yw pobl yn sôn am y peth
- Beio eich hun
- Methu wylo adref
- Gorfod esbonio pam fy mod yn wylo ac nad wyf eisiau trafod y peth – felly mae’n well peidio wylo
- Mae pawb yn cefnogi ein rhieni ac yn dweud wrthym am eu cefnogi hwy – beth amdanom ni?
- Ddim yn cael gwybod beth yw’r ffeithiau – y gwir yn cael ei gelu
- Y stigma sy’n gysylltiedig â hunanladdiad – mae pobl yn dweud pethau ansensitif iawn, yn arbennig ynglŷn â chrefydd
- Gweld rhieni yn wylo