Awgrymiadau i’ch helpu drwy’r cyfnod anodd hwn

Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu drwy’r cyfnod anodd hwn:

Beth oedd yn ddefnyddiol

Dyma rai sylwadau gan bobl ifanc yn eu harddegau sydd wedi cael profedigaeth oherwydd hunanladdiad.

  • Ysgrifennu dyddiadur
  • Ffrindiau sy’n gwrando waeth beth yw’r sefyllfa; nad ydynt yn esgus deall; a oedd yn adnabod y person a fu farw; sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg; sydd hefyd yn galaru
  • Siarad â rywun sy’n gwybod am hunanladdiad
  • Pobl yn rhoi eu hamser i mi
  • Defodau megis gwasanaethau coffa
  • Chwarae ei hoff gân
  • Gwneud llun o’r unigolyn
  • Cardiau gan ffrindiau a ffrindiau yn galw i’m gweld
  • Treulio amser ar fy mhen fy hun yn fy ystafell
  • Gwrando ar gerddoriaeth
  • Gwasanaeth iechyd myfyrwyr
  • Cwnselwyr yr ysgol

Beth nad oedd yn ddefnyddiol:

  • Pwysau i astudio a gwaith ysgol
  • Ffrindiau nad ydynt yn deall neu sy’n rhagrithiol, sy’n dweud eu bod yn deall pan fyddwch yn gwybod nad ydynt yn deall
  • Athrawon sy’n meddwl eu bod yn deall; bod yn swnllyd; rhoi pwysau arnoch; bod yn ansensitif
  • Pobl yn holi cwestiynau; yn mynnu atebion pan nad ydych yn teimlo fel siarad; yn dweud “cwyd dy galon”; hel straeon; yn rhoi eu troed ynddi
  • Rhieni sy’n dweud na ddylech wylo

Beth y byddech wedi’i hoffi

  • Rhieni sy’n ymlacio
  • Pobl nad oes arnynt ofn crybwyll enw’r person a siarad amdanynt

Beth oedd fwyaf anodd:

  • Disgwyl i chi ‘ddychwelyd i normal’ ar ôl cyfnod penodol, er enghraifft chwe mis
  • Bod yn y lle yr oedd y sawl a fu farw’n arfer byw ond nad yw yno
  • Mynd heibio’r lle y bu farw
  • Gwerthu a symud ei ddillad a’i eiddo
  • Peidio â gallu siarad am y peth oherwydd ei fod wedi digwydd amser maith yn ôl ac nid yw pobl yn sôn am y peth
  • Beio eich hun
  • Methu wylo adref
  • Gorfod esbonio pam fy mod yn wylo ac nad wyf eisiau trafod y peth – felly mae’n well peidio wylo
  • Mae pawb yn cefnogi ein rhieni ac yn dweud wrthym am eu cefnogi hwy – beth amdanom ni?
  • Ddim yn cael gwybod beth yw’r ffeithiau – y gwir yn cael ei gelu
  • Y stigma sy’n gysylltiedig â hunanladdiad – mae pobl yn dweud pethau ansensitif iawn, yn arbennig ynglŷn â chrefydd
  • Gweld rhieni yn wylo