Beth fydd yn helpu?

Nid yw dechrau derbyn bod yr unigolyn wedi marw yn golygu na fyddwch yn ei anghofio byth, ond gydag amser bydd yn haws i chi barhau â’ch bywyd eich hun. Mae dweud ffarwél yn helpu. Efallai y byddwch yn penderfynu mynd i weld y corff, ond os ydych yn poeni am hyn, gofynnwch i rywun agos atoch neu rywun yng nghwmni’r ymgymerwyr roi gwybod i chi beth i’w ddisgwyl (er enghraifft, bydd y corff yn teimlo’n oer). Os oedd y farwolaeth yn dreisgar a bod y corff wedi’i anffurfio, gallai fod yn bosibl i ran o’r corff, fel llaw er enghraifft, fod yn weladwy tra bydd gweddill y corff wedi’i orchuddio. Mae rhai pobl yn teimlo’n falch eu bod wedi gweld y sawl a fu farw yn edrych mor heddychlon a’u bod wedi gallu cyffwrdd a ffarwelio ag ef. Gall yr angladd helpu pobl hefyd i dderbyn realiti’r farwolaeth a dweud ffarwél a rhannu eu galar â’r teulu a’u ffrindiau.

Os byddwch yn penderfynu nad ydych yn dymuno gweld y corff na mynd i’r angladd, gallech helpu i drefnu gwasanaeth coffa yn ddiweddarach, a fydd yn gyfle i bobl gofio’r sawl a fu farw a rhannu atgofion hapus.

Gallech wneud ‘blwch atgofion’ neu lyfr lloffion i gadw ffotograffau, llythyrau a phethau sy’n eich atgoffa o’r sawl a fu farw a’r amseroedd da a gawsoch gyda’ch gilydd. Gallai helpu i ysgrifennu llythyr ato/ati, a dweud y pethau y byddech wedi dymuno eu dweud pan oedd yn fyw.

Bydd pen-blwyddi, y Nadolig ac achlysuron arbennig eraill yn gyfnodau anodd. Gallai helpu i chi gynllunio ymlaen llaw beth rydych yn mynd i’w wneud gyda’ch teulu, gofalwyr neu ffrindiau.

Gall trafod eich teimladau eich helpu i’w rheoli a gwneud synnwyr ohonynt. Gallech wneud rhestr o bobl y gallech siarad â hwy, yn cynnwys rhieni, perthnasau eraill, ffrindiau, athro neu athrawes, cymydog, rhieni ffrind agos, meddyg, cwnselydd neu linell gymorth, er mwyn i chi allu cysylltu â hwy os ydych yn teimlo’n anhapus. Mae gan y Samariaid wasanaeth e-bost yn ogystal â llinell gymorth.

Mae gan Gofal Galar Cruse wefan ‘Gobaith Eto‘ a’i gynllunid gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Mae’n lle diogel ble mae pobl ifanc sydd mewn profedigaeth yn gallu rhannu eu profiadau. Yma, gallwch ddarganfod gwybodaeth am wasanaethau, clust i wrando i chi, a chyngor i unrhywun sydd wedi colli un sy’n annwyl iddynt. Mae Winston’s Wish yn helpu plant a phobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth i ailadeiladu eu bywydau ar ôl marwolaeth yn eu teulu. Mae gan The Child Bereavement Charity adran arbennig ar gyfer pobl ifanc. Gallwch hefyd ymweld â’r safle Awstralaidd, ‘Reach Out!’, gwefan ddienw a chyfrinachol sy’n rhoi gwybodaeth a chymorth i helpu pobl ifanc drwy gyfnodau anodd, yn cynnwys ymdopi â cholled a galar.

Gofalwch amdanoch chi eich hun a gwnewch bethau rydych yn eu mwynhau. Mae’n iawn i chi chwerthin a chael hwyl. Ni allwch fod yn drist drwy’r amser ac nid yw’n golygu nad ydych yn hiraethu am y sawl a fu farw. Ceisiwch beidio ag atal eich teimladau, ond ceisiwch ganfod ffordd i’w mynegi, drwy waith celf o bosibl, neu ysgrifennu, cerddoriaeth neu ymarfer corff.