Beth sy’n annhebygol o helpu?

Beth sy’n annhebygol o helpu?

Efallai y byddwch yn canfod eich bod yn gwneud pethau nad ydych yn eu gwneud fel arfer: yfed gormod, cymryd cyffuriau, cael perthynas â rhywun rydych yn edifar amdani ar unwaith, yn dadlau neu hyd yn oed yn ymladd. Os ydych yn teimlo eich bod allan o reolaeth, ceisiwch ystyried eich ymddygiad a gofynnwch i chi eich hun a yw hyn oherwydd y boen rydych yn ceisio delio â hi.

Os nad oes gennych unrhyw un i siarad ag ef a’ch bod yn cael anhawster i ymdopi – er enghraifft os ydych yn ffraeo â’ch teulu a’ch ffrindiau, eich bod ar ei hôl hi gyda’ch gwaith ysgol neu os ydych wedi ystyried lladd eich hun – gofynnwch am help gan weithiwr proffesiynol.

Siaradwch â chwnselydd yr ysgol neu’ch meddyg, a allai eich cyfeirio at rywun a all eich helpu. Peidiwch â theimlo cywilydd oherwydd hyn, mae yna nifer fawr o bobl sydd wedi derbyn cymorth fel hyn.