Mynd yn ôl i’r ysgol
Efallai bod angen cyfnod i ffwrdd o’r ysgol arnoch, neu efallai eich bod yn dymuno dychwelyd cyn gynted â phosibl. Gwnewch beth bynnag rydych yn credu sy’n iawn i chi. Efallai eich bod yn teimlo nad ydych am i unrhyw un wybod beth sydd wedi digwydd, ond mae’n ddefnyddiol os bydd eich athrawon a’ch cyd-ddisgyblion yn gwybod beth yw’r sefyllfa rydych yn ei hwynebu er mwyn iddynt allu bod yn gydymdeimladol. Gall rhywun yn eich teulu roi gwybod i’ch athro dosbarth/athrawes ddosbarth neu bennaeth blwyddyn beth fyddai’n well gennych – gall yr athro/athrawes roi gwybod i weddill y staff am y sefyllfa – ond efallai y byddai’n well gennych ddweud wrth eich ffrindiau eich hun. Efallai y byddwch yn cael anhawster i ymdopi â gwaith ysgol, yn arbennig os bydd y sefyllfa wedi effeithio ar eich gallu i ganolbwyntio.
Os felly, siaradwch â’ch athro/athrawes i weld a allant gymryd hyn i ystyriaeth.