Lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol
Nid yw lesbiaid , hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) yn wahanol i unrhyw bartner mewn profedigaeth sydd yn briod neu berthynas heterorywiol. Er hynny, fe all bobl sydd â phartner o’r un ryw ddioddef anhawsterau penodol ar ôl profedigaeth. Mae yna hefyd dystiolaeth bod pobl lesbiaid , hoyw, deurywiol a thrawsrywiol mewn mwy o berygl o ymddygiad hunanladdol. Fe all anhawsterau ddigwydd, er enghraifft, os nad yw teulu neu rai ffrindiau yn gwybod am y berthynas. Fe all bartner neu ffrindiau cael eu heithrio o drefniadau angladd, a hyd yn oed os yw’r teulu yn ymwybodol o’r berthynas, efallai ni fyddant yn cydnabod ei phwysigrwydd, neu hyd yn oed bod yn elyniaethus. Os digwyddiff hyn, ceisiwch ofyn i ffrind i weithredu fel cyfryngwr rhwng y partner a’r teulu mewn profedigaeth.
Efallai y bydd yn rhaid i bartner Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol ymdopi hefyd ag anwybodaeth rhai pobl neu eu methiant i ddeall dyfnder ac aeddfedrwydd y berthynas, a allai olygu nad yw eu profedigaeth yn cael ei chydnabod yn y gwaith er enghraifft, neu efallai y bydd pobl yn disgwyl iddynt ddod dros y profiad yn gyflymach. Efallai y bydd y berthynas yn cael ei chyhoeddi yn y cwest ac yn cael sylw yn y wasg, a allai ychwanegu at ofid y partner mewn profedigaeth, y perthnasau a’r ffrindiau (gweler Materion ymarferol wrth ddelio â’r cyfryngau). Efallai y bydd cyplau eraill yn byw y tu allan i’r hyn a elwir weithiau yn ‘sîn’, neu efallai eu bod yn teimlo’n anghyfforddus ynglŷn â defnyddio gwasanaethau i bobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol. Gallai siarad â ffrindiau a theulu ynglŷn â’ch teimladau helpu a/neu gysylltu â sefydliadau sy’n gallu cynnig cymorth megis rhwydweithiau lleol i bobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol, hyd yn oed os nad ydych wedi cysylltu â hwy o’r blaen.