Plant
Gall plant ddelio â galar mewn ffordd wahanol i oedolion. Mae’n gyffredin i blant newid o fod yn ddigalon iawn i fod eisiau mynd allan i chwarae fel pe na bai dim wedi digwydd. Dyma eu ffordd o ymdopi ac nid yw’n golygu nad yw’r farwolaeth wedi effeithio arnynt.
Ymysg rhai newidiadau mewn ymddygiad y gallech sylwi arnynt mae:1
- Ymddygiad ailadroddus
- Wylo neu chwerthin heb reswm amlwg
- Actio’r golled gyda theganau
- Dicter neu fod yn ymosodol tuag at ffrindiau, rhieni neu deganau
- Strancio
- Efelychu ymddygiad y sawl a fu farw
- Ymddwyn fel plentyn iau neu’n fwy fel oedolyn
- Rhedeg i ffwrdd o’r ysgol neu ddim eisiau mynd i’r ysgol
- Problemau gyda gwaith ysgol
- Pigog, aflonydd, a phroblemau canolbwyntio
- Ceisio denu sylw
- Pryderu a ddim eisiau eich gadael
- Gwlychu’r gwely a sugno bawd
- Ddim yn cysgu neu’n cael hunllefau
- Eisiau cysgu gydag oedolyn y maent yn ymddiried ynddo
- Problemau bwyta
1. Addaswyd gyda chaniatâd Supporting children after suicide. Information for parents and other care givers. K. Noonan a A. Douglas (2002). Prosiect Plant Mewn Profedigaeth Oherwydd Hunanladdiad, Adran Iechyd NSW; an Information and support pack for those bereaved by suicide or other sudden death. S.J. Clark, S.D. Hillman a’r Cyngor Gweinidogol dros Atal Hunanladdiad (2001). Perth, Awstralia: Cyngor Gweinidogol dros Atal Hunanladdiad. Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd Cymanwlad Awstralia
-
Colli brawd neu chwaer
-
Teimladau hunanladdol
-
Pobl ifanc
-
I rieni plant hŷn
-
Pa bethau eraill fydd yn helpu?
-
A fydd fy mhlant mewn perygl o gyflawni hunanladdiad eu hunain?
-
A ddylai fy mhlant weld y corff a mynd i’r angladd?
-
Sut y dylwn i drafod y farwolaeth gyda’m plant?
-
Colli rhiant
-
Colli nain neu daid/ mam-gu neu dad-cu
-
Colli ffrind