Plant

Gall plant ddelio â galar mewn ffordd wahanol i oedolion. Mae’n gyffredin i blant newid o fod yn ddigalon iawn i fod eisiau mynd allan i chwarae fel pe na bai dim wedi digwydd. Dyma eu ffordd o ymdopi ac nid yw’n golygu nad yw’r farwolaeth wedi effeithio arnynt. 

Ymysg rhai newidiadau mewn ymddygiad y gallech sylwi arnynt mae:1

  • Ymddygiad ailadroddus 
  • Wylo neu chwerthin heb reswm amlwg
  • Actio’r golled gyda theganau
  • Dicter neu fod yn ymosodol tuag at ffrindiau, rhieni neu deganau 
  • Strancio
  • Efelychu ymddygiad y sawl a fu farw
  • Ymddwyn fel plentyn iau neu’n fwy fel oedolyn 
  • Rhedeg i ffwrdd o’r ysgol neu ddim eisiau mynd i’r ysgol 
  • Problemau gyda gwaith ysgol 
  • Pigog, aflonydd, a phroblemau canolbwyntio 
  • Ceisio denu sylw 
  • Pryderu a ddim eisiau eich gadael 
  • Gwlychu’r gwely a sugno bawd 
  • Ddim yn cysgu neu’n cael hunllefau 
  • Eisiau cysgu gydag oedolyn y maent yn ymddiried ynddo 
  • Problemau bwyta 

1. Addaswyd gyda chaniatâd Supporting children after suicide. Information for parents and other care givers. K. Noonan a A. Douglas (2002). Prosiect Plant Mewn Profedigaeth Oherwydd Hunanladdiad, Adran Iechyd NSW; an Information and support pack for those bereaved by suicide or other sudden death. S.J. Clark, S.D. Hillman a’r Cyngor Gweinidogol dros Atal Hunanladdiad (2001). Perth, Awstralia: Cyngor Gweinidogol dros Atal Hunanladdiad. Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd Cymanwlad Awstralia