Colli brawd neu chwaer

Colli brawd neu chwaer

Os yw eich brawd neu’ch chwaer wedi marw drwy hunanladdiad, rydych wedi colli rhywun y cawsoch eich magu gydag ef/gyda hi, rhywun rydych wedi ymladd a dadlau gydag ef/gyda hi fwy na thebyg a rhywun yr oeddech yn genfigennus ohoni/ohono o bosibl, yn ogystal â rhywun roeddech yn ei garu ac yn gofalu amdano/amdani. Efallai y byddwch yn teimlo y dylech fod wedi gwneud rhywbeth i’w atal rhag lladd ei hun. Efallai y byddwch hefyd yn teimlo’n ddig tuag ato/ati am yr hyn y mae wedi’i wneud. Mae’r rhain yn deimladau cyffredin.

Efallai y bydd eich rhieni wedi’u llethu gymaint gan alar fel na allant eich helpu gyda’ch galar chi, ac efallai y byddwch yn teimlo’n flin am nad ydynt yn rhoi sylw i chi. Efallai y bydd pobl eraill yn canolbwyntio ar helpu eich rheini ac yn diystyru eich anghenion chi. Ceisiwch ddeall teimladau eich rhieni a chanfod perthynas neu ffrind arall y teulu i siarad â hwy.

Weithiau bydd pobl yn delfrydoli’r sawl a fu farw ac yn gosod disgwyliadau afrealistig ar y plant neu’r plentyn eraill, ac efallai y byddwch yn teimlo cyfrifoldeb i ofalu am eich rhieni. Ni ddylai unrhyw un ddisgwyl i chi gymryd lle’r sawl a fu farw. Rydych yn berson unigryw gyda’ch rhinweddau eich hun. Gallai fod yn ddefnyddiol siarad â rhywun sydd wedi cael profiad tebyg.