Colli ffrind

Os ffrind i chi sydd wedi marw, gall fod yn golled aruthrol i chi. Efallai eich bod wedi teimlo’n agosach ato/ati na’ch teulu eich hun a’i bod yn edifar gennych na wnaethoch sylweddoli pa mor ddrwg yr oedd yn teimlo, neu efallai eich bod yn credu y gallech fod wedi gwneud rhywbeth i’w helpu. Gall eich ffrindiau eraill fod o gymorth i chi neu efallai bod cwnselydd yn yr ysgol neu’r coleg y gallech siarad ag ef. Gallai ymweld â theulu eich ffrind eich helpu a rhannu eich atgofion gyda hwy.