Colli rhiant

Colli rhiant

Os yw eich mam neu’ch tad wedi marw am eu bod wedi lladd eu hunain, efallai eich bod yn teimlo’n ofnus, yn unig, yn flin eu bod wedi’ch gadael i ymdopi ar eich pen eich hun ac wedi’ch brifo nad yw’n ymddangos eu bod yn eich caru chi ddigon i aros. Efallai eich bod yn teimlo bod yn rhaid i chi ‘dyfu i fyny’ yn gyflym a chefnogi eich rhiant arall, gofalu am frodyr a chwiorydd iau neu guddio eich galar chi eich hun er mwyn osgoi peri gofid i weddill y teulu. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod eich anghenion chi yn cael eu cydnabod. Ni ddylech deimlo’n ddrwg ynglŷn â mynd allan gyda’ch ffrindiau a bod yn fwy annibynnol, oherwydd mae dysgu sut i barhau â’ch bywyd yn rhan o’r broses wella.