I rieni plant hŷn

Mae marwolaeth yn y teulu yn brofiad trychinebus, a gall fod yn arbennig o anodd i bobl ifanc yn eu harddegau sydd hefyd yn ceisio ymdopi â phwysau arferol tyfu’n oedolyn. Efallai y byddant yn cael anhawster i fynegi eu hemosiynau. Gallwch helpu drwy wrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud a’u hannog i fynegi eu teimladau yn eu ffordd eu hunain – gallai hyn fod drwy gerddoriaeth, ysgrifennu barddoniaeth neu baentio. Dylech dderbyn y gallai eu ffordd hwy o alaru fod yn wahanol i’ch ffordd chi – efallai y byddant yn dawedog, neu’n sgrechian a chrio. Byddwch yn amyneddgar os ydynt yn flin ac yn bigog. Ceisiwch siarad fel teulu a rhannu eich galar. Efallai y bydd plant hŷn yn dymuno bod i ffwrdd o gartref sy’n llawn tristwch, ac efallai y bydd angen iddynt fod ar eu pen eu hunain gyda’u meddyliau neu allan gyda ffrindiau. Efallai y bydd yn haws ganddynt siarad â ffrindiau neu rywun arall y tu allan i’r teulu. Ceisiwch beidio â bod yn orwarchodol a’u hannog i fynd allan a mwynhau eu hunain os ydynt yn dymuno. Os bydd un o’ch plant wedi marw, dylech osgoi delfrydoli eich atgofion ohonynt, oherwydd bydd hyn yn ei gwneud yn anoddach i’r brodyr a’r chwiorydd sydd ar ôl.

Os ydych yn poeni y gallai eich plentyn fod yn datblygu iselder neu ei fod yn cael teimladau hunanladdol, gofynnwch am help proffesiynol gan eich meddyg. Mae PAPYRUS yn cynnig cyngor a chymorth i bobl sy’n poeni am bobl ifanc a allai fod yn teimlo’n hunanladdol.