Pa bethau eraill fydd yn helpu?
Efallai y bydd eich galar yn eich llethu ac na allwch ofalu am eich plant yn iawn, ond mae’n bwysig cadw i’w patrwm arferol gymaint ag y bydd hynny’n bosibl. Gallai fod o gymorth i chi ofyn i ffrind neu berthynas roi cefnogaeth arbennig i’ch plant drwy siarad â hwy neu fynd â hwy allan er mwyn i chi gael amser ar eich pen eich hun.
Efallai y bydd plant bach yn poeni y byddwch chi’n eu gadael hefyd. Dylech roi sicrwydd iddynt na fyddwch yn eu gadael a dywedwch wrthynt yn glir ynglŷn â’r amseroedd y byddwch i ffwrdd oddi wrthynt a phryd y byddwch yn dychwelyd.
Peidiwch ag ofni dangos i’ch plant eich bod yn galaru. Bydd hyn yn rhoi gwybod iddynt ei bod yn naturiol wylo a mynegi eu teimladau. Dylech eu hannog i drafod eu hofnau a’u pryderon. Os byddwch yn ceisio cuddio eich galar oddi wrthynt, efallai y byddant yn credu nad oeddech yn poeni am y sawl a fu farw. Mae hefyd yn bwysig esbonio i blant nad oes yn rhaid iddynt alaru drwy’r amser – gall chwarae a gweithgarwch corfforol fod yn o les iddynt. Efallai y bydd plant yn teimlo’n flin iawn ar ôl hunanladdiad. Gall gweithgarwch corfforol (megis cicio pêl neu redeg) eu helpu i sianelu’r dicter hwn.
Gallwch roi sicrwydd, cysur a thawelwch meddwl corfforol iddynt drwy eu cofleidio, rhoi eu hoff fwyd iddynt, blancedi meddal a goleuadau nos.
Bydd colli’r sawl a fu farw yn newid eich sefyllfa fel teulu a’r rolau yn y teulu hwnnw. Efallai y bydd yn rhaid i chi ysgwyddo cyfrifoldebau newydd a gallai fod yn anodd i chi gael deupen llinyn ynghyd. Ceisiwch beidio â phwyso gormod ar eich plant am gymorth a chysur, er y gall fod yn ddefnyddiol i chi drafod newidiadau pwysig gyda hwy a’u cynnwys mewn penderfyniadau.
Ceisiwch gynllunio pethau i chi edrych ymlaen atynt a soniwch am y rhain wrth eich plant er mwyn iddynt wybod y byddwch yn parhau i ofalu amdanynt.
Dywedwch wrth yr ysgol am y farwolaeth, a dywedwch wrth eich plant eich bod wedi gwneud hyn. Dylech ymarfer gyda hwy beth i’w ddweud wrth ffrindiau ac athrawon. Efallai y bydd angen i chi atgoffa athrawon newydd o’r sefyllfa yn ddiweddarach.
Mae rhai plant yn cael cysur o wneud ‘bocs atgofion’ neu lyfr lloffion yn cynnwys ffotograffau, lluniau, llythyrau, cerddi, storïau a chofroddion y sawl a fu farw. Gallant ddychwelyd at hyn wrth iddynt fynd yn hŷn a phan fyddant yn awyddus i wybod mwy am y sawl a fu farw.
Gall gwneud bocs neu lyfr atgofion fod yn weithgarwch pwysig i’r teulu. Mae Winston’s Wish yn cyflenwi nifer o flychau arbennig amrywiol ar gyfer hyn.
Dylech roi sicrwydd i’ch plant na fyddant bob amser yn teimlo mor ddrwg â hyn. Gall gymryd llawer o amser, ond byddant yn teimlo’n well a bydd rhywun bob amser yn eu caru ac yn gofalu amdanynt.
Drwy siarad am y farwolaeth, annog cwestiynau, rhannu teimladau a chysuro eich plant, gallwch eu helpu drwy’r cyfnod anodd hwn. Os ydych yn poeni nad ydynt yn ymdopi, gofynnwch i’ch meddyg drefnu help proffesiynol.