Pobl ifanc
Fel person ifanc, nid yw’r ystod o brofiadau a dwysedd y profiadau yr ydych yn debygol o’u teimlo pan fydd rhywun rydych yn ei adnabod yn marw (gweler ‘Cael profedigaeth’) yn wahanol i brofiadau unrhyw un arall.
Efallai mai dyma’r tro cyntaf i rywun rydych yn ei adnabod farw, a gall y teimladau rydych yn eu profi fod yn ddychrynllyd. Efallai eich bod yn poeni sut y byddwch yn ymdopi a beth y byddwch yn ei ddweud wrth bobl eraill.
Ceisiwch dderbyn eich teimladau yn hytrach na’u hatal. Gall wylo helpu, ond os ydych yn teimlo’n anghyfforddus yn wylo yng nghwmni pobl eraill, ceisiwch ddod o hyd i rywle lle gallwch wylo’n breifat. Os ydych yn teimlo’n ddig, ceisiwch siarad â rywun neu wneud rhywbeth corfforol, megis cicio pêl neu daro clustog.
Efallai y byddwch yn darganfod bod rhai o’ch ffrindiau yn eich osgoi am nad ydynt yn gwybod beth i’w ddweud. Gadewch iddynt wybod y byddech yn hoffi eu gweld a’i bod yn iawn i siarad – neu i beidio â siarad, os dyna fyddai’n well gennych.