Sut y dylwn i drafod y farwolaeth gyda’m plant?
Ni fydd trafod marwolaeth gyda’ch plant yn hawdd, ond mae’n siŵr y byddwch yn teimlo rhyddhad wedyn ac yn falch eich wedi bod yn onest. Bydd clywed am hunanladdiad yn ddamweiniol yn peri gofid mawr i blant, felly mae’n bwysig eich bod yn onest ac yn agored o’r dechrau. Efallai y byddant yn teimlo wedi’u bradychu ac na allant ymddiried ynoch os ydynt yn credu nad ydych wedi dweud y gwir wrthynt. Mae’n hawdd, yn arbennig gyda phlant hyˆn, tanamcangyfrif dyfnder eu teimladau, eu gallu i guddio eu teimladau (yn aml er mwyn diogelu teimladau eu rheini a’u hanwyliaid) a’u hangen i gael gwybodaeth fanwl am yr hyn sydd wedi digwydd, er nad ydynt wedi mynegi’r angen hwn. Efallai na fydd plant ifanc iawn yn deall bod marwolaeth yn derfynol ac na all corff marw deimlo unrhyw beth. Efallai y byddant yn meddwl eu bod wedi achosi’r farwolaeth mewn rhyw ffordd. Defnyddiwch eiriau syml y mae eich plant yn eu deall a cheisiwch eu hannog i siarad a holi cwestiynau. Efallai y bydd eich plant yn holi’r un cwestiynau drosodd a throsodd. Gwrandewch yn ofalus ar eu cwestiynau, hyd yn oed os byddant yn ymddangos yn ddibwys, a cheisiwch roi ateb gonest a chyson iddynt. Efallai na fydd plant yn cymryd popeth i mewn i ddechrau, felly byddwch yn barod i ailadrodd y stori nifer o weithiau, oherwydd bydd hyn yn eu helpu i ddod i delerau â’u colled. Un ffordd o esbonio hunanladdiad yw ei esbonio i’ch plant mewn pum cam:1
- Esboniwch fod yr unigolyn wedi marw.
- Rhowch fanylion syml ynglŷn â’r ffordd y maent wedi marw.
- Dywedwch fod yr unigolyn wedi dewis lladd ei hun.
- Rhowch ddisgrifiad manylach o’r ffordd y mae’r unigolyn wedi marw.
- Trafodwch y rhesymau posibl pam mae’r unigolyn wedi dewis marw.
Gellir cyflwyno’r camau hyn o fewn cyfnod byr o amser neu dros gyfnod hwy, yn dibynnu ar anghenion ac oedran y plant. Defnyddiwch iaith syml ac uniongyrchol a dylech osgoi ymadroddion fel ‘wedi mynd i gysgu’ (oherwydd gallai hyn ddychryn plant sy’n cymryd pethau’n llythrennol a gallent fod ofn mynd i gysgu rhag ofn na fyddant yn deffro). Gwnewch yn siwˆr eu bod yn deall na fydd yr unigolyn yn dod yn ôl. Os ydych yn credu mewn bywyd ar ôl marwolaeth a’ch bod yn awyddus i drafod hyn gyda’ch plant, esboniwch na fyddant yn gweld y sawl a fu farw ar y ddaear eto. Mae’n bwysig iawn eich bod yn esbonio’n glir nad yw’r plant ar fai nac yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd. Dylech eu sicrhau bod pobl yn eu caru ac yn gofalu amdanynt, ac na fydd oedolion eraill yn eu bywyd yn debygol o farw nes y bydd y plant wedi tyfu’n oedolion eu hunain.
Efallai y bydd eich plant yn gofyn pam y dewisodd yr unigolyn farw. Gallech ddweud rhywbeth fel:
“Roedd gan Mami salwch a oedd yn gwneud iddi deimlo’n drist iawn a dryslyd. Roedd yn teimlo mor wael nes penderfynodd hi y byddai’n well pe bai hi wedi marw.” “Roedd eich brawd yn poeni am lawer o bethau – roedd wedi colli ei waith yna dywedodd Mandy nad oedd am fod yn gariad iddo mwyach. Roedd yn yfed llawer o alcohol ac efallai bod hyn wedi ei gwneud yn anodd iddo feddwl yn glir, felly roedd yn meddwl na fyddai pethau byth yn gwella. Rydym yn drist iawn nad oedd Sam wedi gallu gofyn am help. Nid oes unrhyw beth mor ddrwg fel nad oes rhyw ffordd allan ar gael. Dyna pam mae angen teulu a ffrindiau arnom sy’n gofalu am ei gilydd – ond mae angen i ni ddweud wrth bobl os bydd pethau’n mynd o’i le er mwyn iddynt allu ceisio ein helpu.”
- Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd Beyond the rough rock: supporting a child who has been bereaved through suicide. Diana Crossley a Julie Stokes (2001). Caerloyw: Winston’s Wish.
- Addaswyd gyda chaniatâd Grwˆp Cymorth Canterbury Bereaved by Suicide, www.supportfind.com/cbssg