Pobl ag anableddau dysgu

Mae pobl yn aml yn tanbrisio gallu rhywun ag anabledd dysgu i ddeall y cysyniad o farwolaeth a’i allu i alaru.

Weithiau mae pobl ag anableddau dysgu yn cael anawsterau i fynegi eu hunain ar lafar, ac efallai y byddant yn cael eu trin fel person heb deimladau. Os mai’r sawl a fu farw oedd yn deall ei ffordd unigol o gyfathrebu orau, gallai hyn wneud y golled yn fwy poenus fyth. Efallai na fydd pobl sy’n gofalu amdanynt yn llwyddo i ddehongli arwyddion o aflonyddwch ymddygiadol fel ymateb i brofedigaeth. Gall fod angen cymorth ar yr unigolyn ag anabledd dysgu i ddeall y teimladau sy’n gysylltiedig â’r golled. Dylid rhoi esboniad gonest iddo o’r hyn sydd wedi digwydd a dylid ei annog i gymryd rhan mewn defodau megis yr angladd a chael cyfle i fynegi galar.