Pobl hŷn

Roedd hunanladdiad yn drosedd yn Lloegr tan 1961 ac felly os cawsoch eich magu cyn hyn, efallai eich bod yn teimlo mwy o gywilydd os bydd rhywun yn eich teulu yn lladd ei hun. Efallai eich bod yn fwy amharod i siarad am hunanladdiad â phobl eraill neu’n fwy amharod i ofyn am help, am eich bod yn credu bod hyn yn adlewyrchu’n wael ar eich teulu.  Gallai eich iechyd corfforol fod yn fwy bregus a gallech fod yn fwy tebygol o ddatblygu iselder. Efallai na fydd gennych lawer o gymorth cymeithasol os bydd eich teulu’n byw ymhell a bod eich ffrindiau wedi marw, neu efallai eich bod yn teimlo’n unig, yn arbennig os mai eich priod oedd y sawl a fu farw. Ni ddylech deimlo eich bod yn gwastraffu amser eich meddyg drwy fynd i’w weld os ydych yn teimlo’n anhapus neu os oes gennych fwy o boenau nag arfer. Mae hyn yn gwbl resymol. Os nad oes gennych lawer o egni, os ydych yn colli diddordeb yn eich gweithgareddau arferol neu wedi colli eich archwaeth bwyd, dylech ystyried y symptomau hyn o ddifrif a gofyn am help. 

Mae Age UK yn darparu gwybodaeth am yr help ymarferol sydd ar gael i bobl hŷn sydd wedi cael profedigaeth. Mae rhai swyddfeydd lleol yn cynnig cymorth profedigaeth; gall eraill helpu pobl sy’n eu ffonio i gysylltu â gwasanaethau profedigaeth lleol (gweler Ffynonellau cymorth a gwybodaeth).