Rhieni sydd wedi colli plentyn

Gall marwolaeth plentyn fod yn ergyd drom. Os bydd eich plentyn yn marw drwy hunanladdiad, mae’r ffaith ei bod yn ymddangos fel ei fod wedidewis marwyn gwneud hyn hyd yn oed yn waeth, a gall ymddangos fel bod y plentyn wedi eich gwrthod chi fel rhiant. Gallech deimlo eich bod wedi methu oherwydd nad oedd modd i chi ei helpu a meddwl tybed a oedd rhywbeth y gwnaethoch ei ddweud neu’i wneud wedi cyfrannu at ei gyflwr meddwl. Gallech fod yn teimlo’n euog am beidio â sylwi ar bethau a allai, o edrych yn ôl, fod wedi bod yn arwyddion rhybudd. Efallai y byddwch yn darganfod pethau yr oedd y plentyn wedi’u cuddio oddi wrthych ac yna’n sylweddoli nad oeddech yn ei adnabod cystal ag yr oeddech yn credu. Gallech feio eich hun am beidio â sylweddoli ei fod mor anhapus. Gallech deimlo hefyd bod eraill yn eich beirniadu am fod yn rhiant gwael. Ni all neb fod yn rhiant perffaithceisiwch gofio’r holl bethau da a wnaethoch dros eich plentyn. 

Os oes gennych blant eraill, bydd eich angen chi arnynt yn fwy byth yr adeg hon. Gofynnwch i aelodau eraill o’r teulu neu ffrindiau am help nes i chi adfer eich hyder. Gallech bryderu bod eich plant eraill mewn perygl o gyflawni hunanladdiad; gall PAPYRUS (atal hunanladdiad ymysg pobl ifanc) roi cyngor a chymorth i chi (gweler ‘Ffynonellau gwybodaeth a chymorth – plant mewn profedigaeth’). Gallwch helpu eich plant drwy eu hannog i siarad am eu teimladau a dod o hyd i ffyrdd eraill o ymdrin â phroblemau. Ceisiwch beidio â bod yn oramddiffynnol neu roi gormod o bwysau arnynt. Ceisiwch eu gwerthfawrogi am eu rhinweddau eu hunain a’u hatal rhag teimlo bod yn rhaid iddynt gymryd lle y plentyn a fu farw. Os bydd eich unig blentyn wedi marw, gallech deimlo bod eich holl obeithion a’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol wedi diflannu ac nad oes diben i fywyd. Mae’n bwysig ceisio cofio y bydd eich plentyn yn rhan ohonoch am byth ac y bydd yr atgofion amdano yn aros gyda chi. Os bydd y teimladau o anobaith yn parhau, ewch i weld eich meddyg. 

Os bydd plentyn sy’n oedolyn wedi marw, gallech deimlo nad oes cymorth ar gael i chi o gymharu â’r hyn sydd ar gael i briod a phlant eich plentyn. Gallech deimlo baich ychwanegol o gyfrifoldeb iunionipethau ar gyfer eich wyrion a’ch wyresau, ond efallai na fydd modd i chi wneud hynny. Os oes gennych deimladau o ddicter tuag at bartner eich plentyn, neu os ydych yn beio’r partner, ceisiwch beidio â’u mynegi yng ngŵydd eich wyrion a’ch wyresau. 

Yn aml, mae mamau a thadau’n galaru mewn ffyrdd gwahanol. Gall hyn roi straen ar berthnasau oherwydd gall fod yn anodd rhannu teimladau a byw gyda phoen eich gilydd. Mae rhai rhieni’n beio ei gilydd am y farwolaeth a gallant gwestiynu eu rhesymau dros aros gyda’i gilydd, ond gall perthynas rhai rhieni ddod yn fwy clos drwy gefnogi ei gilydd a rhannu eu galar. 

Gall galar effeithio ar deimladau rhywiol ac ymatebolrwydd, ac mae dynion a menywod yn teimlo’n wahanol. Efallai y bydd menywod, yn arbennig famau, am osgoi cysylltiad rhywiol ond efallai y bydd dynion yn teimlo mwy o awydd am yr agosrwydd a’r cysur sy’n dod law yn llaw â rhyw gyda’u partner a gall eu gwrthod beri loes a dicter iddynt. Gydag amynedd a dealltwriaeth mae pethau fel arfer yn dychwelyd i normal, ond os bydd y problemau’n parhau, gall helpu i siarad â’ch meddyg neu ag arbenigwr. Ar gyfer rhieni sydd wedi gwahanu neu ysgaru, gall fod cymhlethdodau ychwanegol. Gall y rhiant nad oedd yn byw gyda’r plentyn deimlo nad yw’n cael ei gynnwys yng ngalar y teulu, nad yw’n cael gymaint o gefnogaeth neu hyd yn oed deimlo ei fod yn cael ei feio. Gall llys-rieni hefyd deimlo nad ydynt yn cael eu cynnwys. Mae’n ddefnyddiol rhoi gwybod i’ch partner sut rydych yn teimlo.