Cwestau ac ymchwiliadau
Yng Nghymru a Lloegr, rhaid ymchwilio i bob marwolaeth annisgwyl (fel hunanladdiad posibl, damweiniau neu ddynladdiad). Caiff y crwner lleol ei hysbysu o’r farwolaeth, a bydd fel arfer yn cynnal cwest.
Ar ôl i rywun farw caiff y corff ei gludo i gorffdy. Bydd yr heddlu neu swyddfa’r crwner yn gofyn i rywun (y berthynas agosaf fel arfer) adnabod yr unigolyn a llofnodi datganiad yn cadarnhau pwy yw’r unigolyn. Gall hyn fod yn beth anodd ei wneud, felly ystyriwch ofyn i ffrind neu berthynas fynd gyda chi.
Er na fydd hyn yn digwydd ar unwaith, bydd yr heddlu neu swyddfa’r crwner yn cymryd datganiadau gan bobl sy’n gallu helpu gyda’r ymchwiliad, fel teulu, ffrindiau, yr unigolyn neu’r bobl a ddaeth o hyd i’r corff ac unrhyw dystion i’r farwolaeth. Gallwch ofyn am gopi o’r datganiadau a wnewch, rhag ofn y byddwch am gyfeirio atynt yn ystod y cwest, ond oherwydd eu bod yn ddogfennau cyfreithiol ni fydd hyn yn bosibl bob tro.
Efallai y bydd angen tynnu lluniau o’r lle y darganfuwyd y corff. Os cafodd neges fel nodyn neu recordiad ffôn ei adael, bydd angen i’r heddlu ei gymryd fel tystiolaeth. Bydd rhai crwneriaid yn gadael i chi gael copi, ond nid oes hawl gyfreithiol gennych i gadw’r nodyn. Gallwch ofyn i’r gwreiddiol gael ei ddychwelyd atoch ar ôl y cwest os mai atoch chi y cafodd ei gyfeirio. Gall fod yn ddefnyddiol gwneud nodyn o enwau swyddogion yr heddlu neu swyddogion y crwner a fydd yn dod i gysylltiad â chi a gofyn am dderbynebion am unrhyw beth y byddant yn ei gymryd.
Beth yw swyddogaeth y crwner?
Swyddog barnwrol, annibynnol yw’r crwner a benodir gan yr awdurdod lleol i ymchwilio i farwolaethau annisgwyl, annaturiol a threisgar. Cyfreithwyr yw’r rhan fwyaf o grwneriaid, ond mae rhai yn feddygon; yn achlysurol iawn mae ganddynt gymwysterau cyfreithiol a meddygol.
Gwaith y crwner yw darganfod pwy sydd wedi marw a sut, pryd a ble y bu farw. Mae’r crwner yn gwneud hyn drwy gynnal cwest a dod i casgliad ar achos y farwolaeth. Caiff crwneriaid eu helpu gan swyddogion y crwner (sydd weithiau’n gyn swyddogion yr heddlu), ac mewn rhai rhannau o’r wlad, caiff y crwner ei gynorthwyo gan yr heddlu a staff clerigol.
Yr archwiliad post-mortem
Fel arfer bydd y crwner yn trefnu i batholegydd archwilio’r corff, i geisio dod o hyd i union achos y farwolaeth. Gallech ofyn am gopi o adroddiad yr archwiliad post-mortem; fodd bynnag, fel arfer caiff y rhain eu hysgrifennu mewn arddull ffeithiol ac amhersonol iawn a gallant gynnwys manylion a fydd yn peri gofid i chi.
Beth mae swyddog y crwner yn ei wneud?
Swyddog y crwner fydd y person y byddwch yn cael y cysylltiad mwyaf ag ef. Dylai egluro i chi beth fydd yn digwydd yn y cwest a cheisio ateb unrhyw gwestiynau. Mae’n gwneud yn siŵr bod yr holl dystiolaeth ar gael i’r crwner cyn i’r cwest gael ei gynnal. Gall hefyd gymryd datganiadau a chael adroddiadau ar ran y crwner.
Beth yw cwest?
Ymchwiliad cyhoeddus cyfreithiol yw cwest i geisio dod o hyd i’r ffeithiau am y farwolaeth a chyflwyno casgliad ar achos y farwolaeth. Nid treial ydyw ac nid ei fwriad yw beio neb. Fel arfer caiff ei gynnal mewn llys, a bydd hyn yn frawychus i rai pobl. Gallech ofyn i swyddfa’r crwner drefnu i chi ymweld â’r llys ymlaen llaw ac egluro beth i’w ddisgwyl.
Fel arfer bydd y crwner yn agor y cwest ychydig ddyddiau ar ôl y farwolaeth, ond lle mae ansicrwydd ynghylch achos y farwolaeth fe all agor ymchwiliad yn y lle cyntaf. Mae agor cwest fel arfer yn cynnwys gwrandawiad byr ac adnabod yr unigolyn yn ffurfiol. Yna bydd y crwner yn rhyddhau’r corff i’w gladdu neu’i amlosgi ac yn cyhoeddi tystysgrif marwolaeth dros dro. Yna caiff y cwest ei ohirio nes i’r holl wybodaeth angenrheidiol gael ei chasglu. Gallai hyn gymryd rhai misoedd neu, yn achlysurol iawn, dros flwyddyn. Os digwyddodd y farwolaeth tra roedd yr unigolyn yn y ddalfa, yn yr ysbyty neu mewn gofal seiciatryddol, efallai y bydd y cwest yn cael ei ohirio tra bydd y crwner yn aros i adroddiadau gael eu paratoi neu i ymchwiliad ar wahân gael ei gynnal.
Yn y cwest llawn, bydd y crwner yn galw tystion fel yr heddlu, pobl berthnasol eraill (er enghraifft y patholegydd a wnaeth yr archwiliad post-mortem), meddygon, aelodau’r teulu a thystion eraill i roi tystiolaeth. Efallai y bydd datganiadau a roddwyd i’r heddlu, gan gynnwys yr hyn y mae perthnasau wedi ei ddweud wrthynt, yn cael eu darllen yn y cwest. Os nad oes gennych gopi o’ch datganiad eich hun, gallwch ofyn i swyddfa’r crwner am un, ond nid pawb fydd yn cytuno i hyn. Gall y crwner ofyn cwestiynau i’r tystion. Mae’n anarferol i holl gynnwys unrhyw negeseuon a adawyd gan y sawl a fu farw gael ei ryddhau i’r cyhoedd.
Pwy all fod yn bresennol yn y cwest?
Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd fod yn bresennol mewn cwest. Rhaid i berthnasau agos gael eu hysbysu am amser a lleoliad y cwest ymlaen llaw. Ni oes rhaid i chi for yn bresennol yn y cwest oni chewch chi hysbysiad gan y crwner i roi tystiolaeth. Bydd aelodau o’r wasg yn debygol o fod yn y llys.
A allaf adael y llys yn ystod y cwest?
Gallwch adael y llys ar unrhyw adeg (ac eithrio pan fyddwch yn rhoi tystiolaeth) a dod yn ôl pan fyddwch yn dymuno. Bydd rhai crwneriaid yn eich rhybuddio cyn darllen tystiolaeth yr archwiliad post mortem neu dystiolaeth arall a allai beri gofid i chi er mwyn i chi allu gadael os dymunwch.
A fydd yna reithgor?
Caiff y rhan fwyaf o gwestau eu cynnal heb reithgor, ond weithiau, er enghraifft os digwyddodd y farwolaeth yn y carchar neu yn y ddalfa, gelwir rheithgor a’r rheithgor fydd yn penderfynu ar y casgliad.
Pwy all ofyn cwestiynau i dyst?
Gall unrhyw un â ‘diddordeb priodol’ – fel rhiant, priod, partner neu blentyn y sawl a fu farw – ofyn cwestiynau i dyst. Gallwch ofyn i gyfreithiwr ofyn cwestiynau ar eich rhan, neu gallwch eu gofyn eich hun. Siaradwch â swyddfa’r crwner ymlaen llaw os ydych yn bwriadu gwneud hyn.
Y Casgliad
Dim ond os bydd y sawl a fu farw yn gyfrifol am gyflawni’r weithred yn ei erbyn ef ei hun (ym marn y crwner) a bod y weithred wedi’i bwriadu i achosi marwolaeth y bydd y crwner yn rhoi rheithfarn o hunanladdiad. Os na chaiff hyn ei brofi, bydd y crwner yn rhoi casgliad agored fel arfer, ond weithiau gall roi casgliad arall fel ‘marwolaeth ddamweiniol’ neu ‘farwolaeth drwy anffawd’ hefyd. Er bod rhai pobl yn gallu derbyn hyn, i eraill mae diffyg casgliad o hunanladdiad a’r teimlad nad yw’r cwest yn ateb eu holl gwestiynau ynglŷn â pham y bu’r unigolyn farw yn ei gwneud yn anoddach iddynt ddod i delerau â’r farwolaeth.
A allaf gael copi o adroddiad y cwest?
Bydd y crwner yn gwneud recordiad o’r trafodion. Gallwch wneud cais i gael gweld nodiadau’r crwner o’r dystiolaeth ar ôl y cwest. Rhaid i grwneriaid gadw eu cofnodion am 15 mlynedd (mae rhai’n eu cadw am gyfnod hwy).
Beth fydd yn digwydd ar ôl y cwest?
Byddy crwner yn hysbysu’r Cofrestrydd Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau am y casgliad, er mwyn gallu cyhoeddi tystysgrif marwolaeth derfynol. Bydd swyddfa’r crwner yn dweud wrthych sut i gael tystysgrifau marwolaeth terfynol.
Bydd angen mwy nag un copi arnoch i’w anfon i fanciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau yswiriant a sefydliadau eraill.
A fydd adroddiad yn y papurau newydd?
Pan fydd rhywun wedi marw oherwydd hunanladdiad neu mewn ffordd drawmatig arall, fe all hyn ennyn diddordeb y cyhoedd am resymau ni ellir deall bob tro. Mae’r cwest hefyd yn tynnu sylw at y sawl a fu farw, a gall adroddiadau am yr amgylchiadau ymddangos yn y cyfryngau. Gall hyn achos cryn dipyn o straen, yn arbennig os bydd adroddiad yn ansensitif neu’n anghywir neu, er enghraifft, os yw’n canolbwyntio ar broblemau’r unigolyn heb sôn am y pethau da.
Mae’n bosib gwnaiff newyddiadurwyr a ffotograffwyr ceisio cysylltu â chi am fanylion eich anwylyd, yn enwedig os digwyddodd y farwolaeth mewn man cyhoeddus, neu os yw’r person yn ifanc.
Cofiwch nid oes rhaid i chi gydweithredu na dweud unrhyw beth am y person a fu farw. Hefyd fe allwch ofyn i’r cyfryngau beidio adroddu’r farwolaeth – fe all hyn lwyddo o bryd i bryd.
Fodd bynnag, mae rhai pobl mewn profedigaeth wedi canfod bod y cyfryngau lleol yn sensitif ac yn gefnogol, ac maent wedi cael cyfle i gymeradwyo’r adroddiad hyd yn oed cyn iddo gael ei gyhoeddi.
Gall fod yn ddefnyddiol paratoi datganiad ysgrifenedig am y sawl a fu farw sy’n cynnwys disgrifiad o’r unigolyn (ei enw, oedran, ei bersonoliaeth a hoff bethau, a’r ffordd y byddynt yn cael ei gofio). Yna, bydd ychydig mwy o reolaeth gennych dros yr hyn sy’n cael ei ddweud neu ysgrifennu.
Hefyd, fe all y datganiad nodi os ydych yn barod i sylwadu ar yr hyn sydd wedi digwydd, neu os ydych yn fodlon cymryd rhan mewn cyfweliad nawr neu rywbryd arall. Cyn siarad gyda’r cyfryngau, mae’n bwysig ystyried goblygiadau gwneud y wybodaeth yma ar gael i’r cyhoedd. Nid yw’n bendant y defnyddai’r cyfrynghau yr hyn yr ydych wedi paratoi. Mae’n bosib wnai’r cyfryngau dewis gwneud ei ymchwil ei hun drwy ddefnyddio gwybodaeth sydd a’r gael yn barod. Er enghraifft, lluniau o gyfrifion cyfryngau cymdeithasol.
Efallai hoffech ddarparu llun eich hun. Ond cofiwch, unwaith rhoddwch y llun i’r cyfrynhau, fe allent ei ddefnyddio ar unrhyw bryd, er enghraifft, os digwyddir rhywbeth tebyg. Fe all gweld y llun rhywbryd yn ddiweddarach, heb ddisgwyl, greu cryn sioc.
Weithiau, gall adroddiad addas y cyfryngau temilo fel ffordd o rannnu bywyd y person gyda phobl eraill. Mae rhai yn dewis siarad yn gyhoeddus fel modd o gofio’r person neu i godi ymwybyddiaeth am hunanladdiad i helpu osgoi marwolaeth rhywun arall. Gwnewch beth bynnag sy’n gyfforddus i chi.
Mae gan y Samariaid ganllawiau clir ar gyfer y cyfryngau sy’n esbonio sut i ysgrifennu adroddiadau addas am hunanladdiad. Gallwch gwyno os teimlwch bod y rhain wedi e’u torri. Mae tîm Samariaid Cymru ar gael i’ch cefnogi i wneud hyn, ac hefyd, fe all Cadair Grŵp Cynghori Cenedlaethol ysgrifennu i’r golygydd am y mater. Gallwch hefyd gwyno i’r Sefydliad Safonau Wasg Annibynnol os ydych wedi bod yn destun i ymchwiliadau ymwthiol, neu os ydych yn poeni gwnall rhyw adroddiad effeithio diogelwch pobl eraill. Gallwch ofyn am gymorth ynglŷn â delio gyda’r cyfryngau oddi wrth bobl fel swyddog y wasg yr heddlu neu swyddog cyswllt teuluol yr heddlu.
Cyfryngau Cymdeithasol
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn nawr yn agwedd o brofedigaeth sy’n dod yn fwy a mwy cyffredin. Efallai mae’n well gennych chi gadw beth sydd wedi digwydd yn breifat, ond eto, mae yna fersiynau a sylwadau eisoes ar y we. Er ei fod yn anodd a phoneus, dyma un rheswm mae’n werth bod yn honest am amgylchiadau’r farwolaeth.
Efallai hoffwch ysgrifennu neges ar dudalen cyfryngau cymdeithasol y person a fu farw neu ar dudalen eich hun. Cyn i chi wneud hynny, meddyliwch a oes yna ffordd fwy caredig o adael i bobl wybod beth sydd wedi digwydd. Hefyd, mae’n bwysig ystyried pwy a wnaiff darllen y neges – efallai na fyddant yn ddymunol iawn a gall hyn achosi cryn dipyn o drallod.
Ar ôl marwolaeth, gall tudalennau cyfryngau cymdeithasol bod yn lle ar gyfer atgofion a lluniau o’r person sydd wedi marw. Mae sawl yn siarad am y cysur daw wrth rannu’r atgofion hyn. Fe all hyn fod yn ffordd ddefnyddiol i gofio penblwyddi a chylchwyliau pwysig.
Gallwch ofyn i gael tudalennau cyfryngau cymdeithasol eu dileu ar ôl marwolaeth y person. Nid yw hyn yn bosib bob tro, a weithiau bydd rhaid dangos y dystysgryf farwolaeth.
Marwolaethau pobl sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl
Mae risg uwch y bydd pobl â salwch meddwl yn lladd eu hunain, o gymharu â phobl eraill. Os bydd rhywun sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl yn lladd ei hun yna mae’n arferol i’r bwrdd iechyd a oedd yn darparu gofal i’r unigolyn hwnnw gynnal archwiliad o’r achos. Mae hyn yn golygu y bydd yn edrych ar amgylchiadau’r hunanladdiad i weld a oes gwersi i’w dysgu. Gall y bwrdd iechyd gysylltu ag aelodau o deulu’r unigolyn fel rhan o’r broses hon.
Marwolaethau yn y ddalfa
Cynhelir ymchwiliad gan yr heddlu yn ogystal ag ymchwiliad gan yr Ombwdsmon Carchardai a Phrawf i bob marwolaeth yn y carchar sy’n digwydd yng Nghymru a Lloegr a chynhelir cwêst y crwner gerbron rheithgor. Fel arfer bydd swyddog cyswllt teulu’r carchar yn hysbysu’r teulu am y farwolaeth, yn cynnig cymorth ac yn rhoi help a chyngor ymarferol i’r teulu. Y swyddogion hyn yw’r pwynt cyswllt gyda’r carchar ac maent yn cyd-drafod ag asiantaethau eraill, ac yn benodol â swyddfa’r crwner. Byddant yn trefnu i ymweld â’r carchar i gwrdd â’r staff a’r carcharorion a oedd yn adnabod y sawl a fu farw. Byddant hefyd yn cyd-drafod â’r caplan ynghylch gwasanaeth coffa, yn trefnu i dalu treuliau angladd rhesymol, yn helpu gyda’r trefniadau ar gyfer yr angladd ac yn bresennol yn yr angladd, ac yn trosglwyddo eiddo personol yn ôl i’r teulu.
Marwolaethau dan ofal yr heddlu neu yn ddalfa
Os bydd marwolaeth yn digwydd yn y ddalfa neu farwolaeth lle y ceir cysylltiad agos â’r heddlu, rhaid cyfeirio’r achos i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (y Comisiwn). Gall y Comisiwn gynnal ymchwiliad annibynnol i’r farwolaeth, neu reoli neu oruchwylio ymchwiliad gan yr heddlu i’r farwolaeth.
Mae’r Comisiwn yn darparu rheolwr cyswllt teulu penodedig yn y rhan fwyaf o ymchwiliadau annibynnol er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r teulu ac egluro pob agwedd ar y broses; mewn achosion a gaiff eu rheoli a’u goruchwylio, mae’r Comisiwn yn debygol o weithio’n agos gyda swyddog cyswllt teulu yr heddlu i ddarparu un pwynt cyswllt, er mwyn lleihau biwrocratiaeth.
Yn ogystal, bydd comisiynydd yn gyfrifol am yr achos a fydd yn gwbl annibynnol ar yr heddlu. Bydd yn gwneud penderfyniadau ynghylch a ddylid trosglwyddo’r achos i Wasanaeth Erlyn y Goron, neu a ddylid disgyblu aelod o’r heddlu.