Cymorth profedigaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Jac Lewis Foundation

Mae’r gwasanaeth yn darparu cwnsela un i un i’r rhai sy’n byw yng Nghymru sydd wedi cael profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig grŵp cymorth cymheiriaid bob pythefnos i oedolion sy’n byw yng Nghymru sydd wedi cael profedigaeth drwy hunanladdiad, y gellid manteisio arno yn bersonol neu ar-lein.

Mae’r gwasanaeth yn berthnasol i unrhyw un yng Nghymru sydd wedi cael profedigaeth drwy hunanladdiad.

Mae’r cymorth yn gyffredinol i bobl sy’n byw yng Nghymru

Gellir cynnig cymorth yn Gymraeg


Powys

Nid oes gwasanaeth cymorth profedigaeth cyffredinol ar gael gan y bwrdd iechyd

Gwasanaeth cymorth ôl-ymyrraeth pwrpasol i’r rhai sydd wedi cael profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad


Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Cwnsela Profedigaeth Arbenigol (pob marwolaeth) i oedolion a phlant a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin

Cwnsela Arbenigol ac mae staff yn mynychu gweithdai hyfforddiant a hyfforddiant DPP priodol sy’n gysylltiedig â’u rôl

Rydym yn cynnig cymorth Cwnsela drwy gyfrwng y Gymraeg a darperir gwybodaeth yn ddwyieithog.

Gwasanaethau Cymorth Profedigaeth

Tŷ Cymorth, Ysbyty Glangwili

Heol Dolgwili

Caerfyrddin

Sa31 2AF


Elusen Sandy Bear ar gyfer Plant sydd wedi cael Profedigaeth

Mae Elusen Sandy Bear ar gyfer Plant sydd wedi cael Profedigaeth wedi’i hariannu i gynnal prosiect peilot i gefnogi plant sydd wedi cael profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin. Ein nod wedi’i ariannu yw ymestyn model gofal Sandy Bear i’r plant a’r bobl ifanc hynny sydd â’r angen mwyaf yng Ngorllewin Cymru a deall y ffyrdd gorau o gynnal ein gwasanaeth


Abertawe Castell-nedd Port Talbot: Gwasanaeth Gofal ar ôl Marwolaeth:Abertawe

Ar gael i gefnogi unrhyw un yn dilyn marwolaeth, beth bynnag fo oedran y sawl a fu farw neu amgylchiadau ei farwolaeth. Yr unig ofyniad yw bod yn rhaid i’r person farw yn ardal Bae Abertawe (Ardal Abertawe Castell-nedd Port Talbot) a byddwn yn cefnogi’r teulu/unigolion cyswllt.

Mae’r cymorth yn gyffredinol ac ar unwaith – byddwn fel arfer yn cysylltu o fewn 24 awr i’r farwolaeth. Yn ystod ein cyswllt cyntaf byddwn yn cynnig cymorth cyffredinol, gan deilwra’r cymorth wedyn yn dibynnu ar sefyllfa’r unigolyn.

Mae aelod o’r Tîm yn siarad Cymraeg ac mae ein holl lenyddiaeth yn ddwyieithog (mae ein gwefan wrthi’n cael ei diwygio felly nid oes tudalen eto, ond bydd hefyd yn ddwyieithog)

Mae gennym rifau gwahanol yn dibynnu ar leoliad y farwolaeth


Gofal Galar Cruse

Yn darparu cyngor a chymorth

Bro Powys

Ardal Gorllewin Cymru