Beth ddylwn i ei ddweud? 

Efallai y byddwch yn poeni neu’n teimlo’n swil ynglŷn â thrafod y farwolaeth, ond mae’n well dweud “Dwi ddim yn gwybod beth i’w ddweud” yn hytrach nag osgoi’r person mewn profedigaeth. Dywedwch “Mae’n ddrwg gen i” oherwydd bydd yn anoddach i chi os byddwch yn gadael hyn am amser hir. Bydd ymateb eich ffrind yn rhoi syniad i chi o’i (h)anghenion ar y pryd – os bydd yn newid y pwnc yn gyflym efallai nad yw eisiau siarad, ond os bydd yn awyddus i wneud hynny, bydd hyn yn rhoi cyfle iddo/iddi. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch. 

Rhannwch y pethau rydych yn eu cofio ynglŷn â’r sawl a fu farw a beth yr oeddent yn ei olygu i chi. Mae’n peri gofid os bydd pobl yn osgoi siarad am y sawl a fu farw, oherwydd mae’n ymddangos eich bod yn gwadu bodolaeth yr unigolyn hwnnw a’i bwysigrwydd ym mywyd eich ffrind. Gall defnyddio enw’r sawl a fu farw roi cysur iddo/iddi. 

Peidiwch â holi gormod am fanylion y farwolaeth; gadewch i’ch ffrind roi’r wybodaeth mae’n teimlo’n gyfforddus yn ei rhoi. Weithiau bydd ansicrwydd ynghylch a oedd y farwolaeth yn hunanladdiad ai peidio (yn arbennig os bydd y crwner yn rhoi casgliad ‘agored’). Dylech osgoi gwneud rhagdybiaethau. 

Dylech fod yn ofalus hefyd o’r iaith y byddwch yn ei defnyddio: er enghraifft, mae’r term ‘cyflawni hunanladdiad’ yn peri gofid mawr i rai pobl oherwydd mae’r term yn parhau i gael ei gysylltu â hunanladdiad fel gweithred droseddol. Peidiwch â barnu, a dylech osgoi rhoi rhesymau am y farwolaeth. Nid yw dweud “Dwi’n gwybod sut wyt ti’n teimlo” o gymorth. Mae’n well gofyn i’ch ffrind sut mae’n teimlo a beth y gallwch ei wneud i helpu.