Sut y gall athrawon helpu 

Bydd angen cymorth gan eu hysgol ar blentyn neu berson ifanc sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad yn y teulu. Gall strwythur a threfn yr ysgol ddarparu noddfa iddynt oddi wrth y teulu sy’n galaru. Ceisiwch gadw pethau mor normal â phosibl, ond gwnewch yn siŵr eu bod yn cael cyfle i siarad â chi, ag athro neu athrawes arall neu â chwnselydd yr ysgol, neu i gael amser tawel iddynt eu hunain os bydd ei angen arnynt. Gallwch siarad â’u ffrindiau hefyd ynglŷn â sut y gallant hwy helpu. 

Er bod rhai plant neu bobl ifanc yn ymddangos fel eu bod yn ymdopi yn yr ysgol heb lawer o anhawster, bydd newidiadau yn ymddygiad nifer ohonynt megis newid mewn hwyliau, bydd pethau bach yn eu cynhyrfu, byddant yn dawedog neu’n amharu ar y dosbarth. Efallai na fyddant yn gallu canolbwyntio ac yn mynd ar ei hôl hi gyda’u gwaith neu efallai y byddant yn ymgolli’n llwyr yn eu gwaith. Bydd dyddiadau arbennig megis pen-blwyddi, y Nadolig a dyddiad y farwolaeth bob blwyddyn yn arbennig o anodd iddynt. Mae pob un o’r ymatebion hyn yn normal a dylai ymagwedd sensitif helpu’r plentyn neu’r person ifanc i deimlo eu bod yn cael cefnogaeth. 

Os bydd myfyriwr wedi lladd ei hun, gallwch geisio helpu ei gyd-ddisgyblion i ddeall bod ffyrdd o ddatrys problemau a bod help ar gael. Mae teimladau hunanladdol yn llawer mwy tebygol o ddigwydd ymhlith pobl sy’n adnabod rhywun sydd wedi marw drwy hunanladdiad. Byddwch yn ymwybodol o’r arwyddion a rhowch help os bydd angen. Mae trafod yr hyn sydd wedi digwydd yn llawer mwy defnyddiol nag osgoi trafod y farwolaeth yn gyfan gwbl.