Sut y gall ffrindiau helpu 

Mae pobl mewn profedigaeth yn profi nifer o emosiynau dwys, a gall y galar fod yn llethol. Efallai y bydd eich ffrind mewn profedigaeth yn wylo, yn gweiddi, yn flin, yn bryderus, yn anniddig neu mewn hwyliau drwg neu, fel arall, efallai y bydd yn dawedog. Byddwch yn amyneddgar a goddefgar a chaniatáu iddo/iddi fynegi galar yn ei ffordd ei hun. Efallai y bydd yn teimlo cywilydd ac wedi’i (h)ynysu oherwydd y stigma cymdeithasol sydd weithiau’n gysylltiedig â hunanladdiad. Gallwch helpu drwy fod yn gwmni a rhoi gwybod iddo/iddi na fyddwch yn ei (g)adael. Gofynnwch i’ch ffrind beth y gallwch ei wneud i helpu. 

Cysylltwch â’ch ffrind cyn gynted ag y byddwch yn clywed am y farwolaeth, ond ffoniwch i ddechrau oherwydd efallai na fydd rhai pobl eisiau ymwelwyr ar unwaith. Os felly, gallech anfon cerdyn neu flodau a ffonio eto ymhen ychydig ddyddiau, oherwydd mae’n bwysig bod y teulu’n gwybod eich bod yn poeni.