Yn y tymor hwy 

Peidiwch â thybio mai dim ond ar ôl y farwolaeth y bydd angen cymorth ar eich ffrind. Gall galar bara am amser hir a gallai rhai cyfnodau fod yn anodd iawn – er enghraifft dyddiad y farwolaeth bob blwyddyn, pen-blwyddi ac achlysuron arbennig eraill – pan fydd yn gwerthfawrogi eich cymorth o bosibl. Cadwch mewn cysylltiad yn rheolaidd, nid dim ond yn yr wythnosau cyntaf. Ceisiwch gynnwys eich ffrind mewn gweithgareddau cymdeithasol, ond byddwch yn sensitif i’w (h)anghenion: efallai y byddai’n well ganddo/ganddi fynd i’r sinema neu am bryd o fwyd yn hytrach na bod yng nghwmni criw mawr o bobl. 

Weithiau, bydd galar pobl mewn profedigaeth mor llethol, fel eu bod yn teimlo’n isel ac yn teimlo nad yw bywyd yn werth ei fyw. Os ydych yn poeni am eich ffrind, gallai fod yn ddefnyddiol i chi awgrymu ei fod yn gofyn am help proffesiynol, er enghraifft gan feddyg neu gwnselydd.