Staff gwasanaeth iechyd meddwl
Mae salwch seiciatrig yn gyffredin ymhlith pobl sy’n marw drwy hunanladdiad, felly maent yn aml wedi bod yng ngofal y gwasanaethau iechyd meddwl.
Mae’n bwysig, lle bynnag y bo’n bosibl, i staff gwasanaethau iechyd meddwl gysylltu â theulu’r sawl a fu farw cyn gynted ag y gallant. Rhowch amser iddynt holi cwestiynau a mynegi eu teimladau.
Weithiau bydd yn helpu teulu a ffrindiau os bydd y staff yn agored ynglŷn â’u teimladau eu hunain ynglŷn â’r golled, oherwydd gallai hyn eu helpu i drafod eu teimladau eu hunain. Weithiau bydd staff yn dymuno mynd i’r angladd neu anfon cardiau cydymdeimlad, ac mae’r teulu yn aml yn croesawu hyn. Rhowch wybod i’r teulu sut y gallant gysylltu â chi a gofynnwch iddynt a hoffent gael cyswllt pellach.
Mae’n hollbwysig hysbysu meddyg teulu y sawl a fu farw cyn gynted â phosibl. Efallai y bydd y staff yn dymuno trafod cynllun i helpu a chefnogi’r teulu. Mae’n debygol y bydd y meddyg yn awyddus i gymryd rhan ac efallai y bydd ganddo farn ar yr hyn fyddai’n fwyaf defnyddiol i’r perthnasau.
Weithiau efallai y bydd y teulu neu ffrindiau yn teimlo’n ddig ac yn feirniadol o’r gofal a gafodd y sawl a fu farw. Os felly, gallai fod yn briodol trefnu cyfarfod rhwng y teulu a’r tîm clinigol, wedi’i hwyluso gan rywun heb gyswllt uniongyrchol â gofal y sawl a fu farw.
Gall marwolaeth claf drwy hunanladdiad effeithio hefyd ar unrhyw un yn y tîm clinigol a oedd yn gysylltiedig â gofal y claf a gall arwain at deimladau, er enghraifft o fethiant, euogrwydd neu fradychiad. Efallai y byddwch hyd yn oed yn cael eich beio gan berthnasau’r claf. Mae’n bwysig eich bod yn cofio na all y therapydd mwyaf cymwys atal hunanladdiad bob tro a bod y rhan fwyaf o fathau o salwch meddwl yn cyflwyno risg uwch o hunanladdiad. Dylid trefnu cyfarfod staff i drafod y farwolaeth er mwyn i gydweithwyr allu rhoi cymorth i’w gilydd a mynegi eu hemosiynau.
Mae nifer o ysbytai yn cynnal cyfarfodydd digwyddiadau critigol er mwyn gallu dysgu o brofiadau – yn hytrach na beio unrhyw un – a nodi’r gwelliannau posibl i ofal cleifion a allai atal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.
Bydd y crwner lleol fel arfer yn gofyn am adroddiad gan y clinigwyr a oedd yn gysylltiedig â gofal claf a gallant ofyn i staff fynychu’r cwest. Gall y profiadau hyn roi straen fawr ar y staff dan sylw, felly mae’n hollbwysig eu bod yn cael cymorth ar adegau o’r fath.
Dylai unrhyw aelod o staff sydd angen cymorth geisio siarad â chydweithiwr y maent yn ymddiried ynddo sydd wedi cael profiad tebyg. Mae’r rhan fwyaf o bwrdd Iechyd yn cynnig help i staff sydd wedi’u heffeithio gan hunanladdiad claf, gan gydnabod bod hyn yn brofiad trawmatig, yn arbennig i’r rhai sy’n darganfod y corff neu sy’n cael eu beirniadu gan berthnasau.
Gall cleifion eraill, yn arbennig mewn lleoliad cleifion mewnol neu grŵp, fod yn fwy bregus ar ôl hunanladdiad a dylent gael cyfle i drafod eu teimladau â’r staff cyn gynted â phosibl ar ôl y farwolaeth. Dylent gael cyngor hefyd ar sut i gael cymorth pellach os bydd ei angen arnynt.
SSHP Cymru wedi’i anelu at unrhyw un sy’n chwilio am gyfleoedd hyfforddi a datblygu a fydd yn gallu eu helpu nhw, eu cymunedau neu eu gweithluoedd i gynyddu eu hymwybyddiaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau mewn cysylltiad â rheoli ac atal hunanladdiad a hunan-niwed.