Mythau am Hunanladdiad
Myth 1. Dydy’r bobl sy’n siarad am hunanladdiad ddim mewn perygl o hunanladdiad
Ffaith: Dydy hyn ddim yn wir ac mae’n lleihau cymhlethdodau’r sy’n sail i hunanladdiad, yn ogystal â’r ffaith fod meddyliau a chymelliadau hunanladdol yn mynd a dod. Drwy siarad am hunanladdiad, efallai eu bod hefyd yn gofyn am gymorth. Mae pobl yn cael sicrwydd ffug gan y myth hwn. Mae o leiaf 4 o bob 10 person sy’n marw drwy hunanladdiad wedi siarad â rhywun am ladd eu hunain. Mae’r cyngor yn syml – dim ots beth yw natur y cyfathrebiad, cymerwch bob mynegiad o hunanladdiad o ddifri.
Holwch yn uniongyrchol ac yn drugarog, archwilio’r hyn sy’n sbarduno’r meddyliau hunanladdol, a gweithio gyda’r person i’w ddiogelu.
Myth 2. Mae gan bawb hunanladdol salwch meddwl
Ffaith: Er bod hunanladdiad yn gallu digwydd yng nghyd-destun salwch meddwl, mae’n werth nodi bod hunanladdiad yn gallu digwydd yng nghyd-destun anfantais gymdeithasol a’i fod yn gallu dilyn colled sydyn neu ddigwyddiad ingol, neu’n gallu bod yn weithred ddiswta; ac yn yr achosion hyn, efallai na fydd tystiolaeth o salwch meddwl.
Myth 3. Mae hunanladdiad yn digwydd yn ddirybudd
Ffaith: Mae hyn yn anodd oherwydd er bod arwyddion rhybudd ar gyfer hunanladdiad yn gallu bodoli (e.e. rhoi trefn ar bethau), mae’n gallu bod yn anodd sylwi arnynt ym mhrysurdeb ein bywyd bob dydd. Yr hanfod yw sylwi pan fydd anwylyd yn agored iawn i niwed a siarad â nhw am eu teimladau, a’u cefnogi.
Myth 4. Mae holi am hunanladdiad yn ‘plannu’ y syniad ym mhen rhywun
Ffaith: Does dim tystiolaeth bod gofyn i rywun a ydyn nhw’n hunanladdol yn plannu’r syniad yn eu pen. Mae ymchwil King’s College, Llundain, yn dangos y gallai gael effaith i’r gwrthwyneb – effaith amddiffynnol. Os ydych chi’n poeni am rywun, gofynnwch iddynt yn uniongyrchol a ydyn nhw wedi bod yn meddwl am hunanladdiad. Fe allai hynny eu helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnynt ac, o bosib, achub eu bywyd.
Myth 5. Mae’n amlwg bod pobl hunanladdol eisiau marw
Ffaith: Nac ydy, dydyn nhw ddim. Mae pobl hunanladdol yn aml mewn cylch o fod eisiau byw ac eisiau marw. I rai mae’r cylch hwn yn troi ar unwaith, i eraill mae’n gallu cymryd oriau neu ddiwrnodau.
Mae pobl sydd wedi goroesi ymgais hunanladdiad yn aml yn sôn am y ddau feddwl hyn, neu fod ag awydd byw yn ogystal ag awydd marw. I eraill, mae’n golygu eu bod eisiau dianc o’r boen emosiynol maen nhw’n ei theimlo.
Mae darparu cymorth, strwythur a chyfleoedd i ddeall yn gallu helpu pobl i reoli a deall eu hemosiynau, yn ogystal â thaflu rhaff i’r rhai mewn angen.
Myth 6. Unwaith mae rhywun yn dechrau teimlo’n hunanladdol, bydd yn hunanladdol am byth
Ffaith: I’r rhan fwyaf o bobl, mae perygl o hunanladdiad yn rhywbeth tymor byr ac yn gysylltiedig â sefyllfa benodol – argyfwng rhyngbersonol yn aml. Er bod meddyliau hunanladdol yn gallu dychwelyd i rai pobl, mae’r mwyafrif helaeth yn adfer yn llawn, gan beidio â cheisio lladd eu hunain o gwbl a pheidio â marw o hunanladdiad.
Myth 7. Mae hunanladdiad yn etifeddol
Ffaith: Mae dod â’ch bywyd i ben yn ymddygiad a does dim modd etifeddu ymddygiad. Serch hynny, mae modd etifeddu bregusrwydd sy’n arwain at hunanladdiad, ond dydy hyn ddim yn golygu bod hunanladdiad yn etifeddol, dim ond bod modd etifeddu rhai risgiau neu fregusrwydd sy’n gysylltiedig â hunanladdiad.
Myth 8. Chwilio am sylw yw cymhelliant ymddygiad hunanladdol
Ffaith: Mae ymddygiad hunanladdol a hunan-niwed yn cael eu disgrifio mewn termau difrïol yn rhy aml. Nid ‘chwilio am sylw’ yw hyn yn y ffordd y mae’r rhai sy’n bod yn ddiystyriol yn ei awgrymu. Mae’n arwydd o ofid, yn hytrach nag arwydd o chwilio am sylw, fel arfer.
Meddyliwch am y boen neu’r gofid mae’n rhaid bod unigolyn yn ei deimlo i achosi cymaint o boen i’w hun fel ffordd o reoli neu leddfu ei deimladau. Mae angen cymryd pob gweithred hunan-niweidiol, dim ots beth yw’r cymhelliant, o ddifri ac mae’n haeddu ymateb trugarog, agos-atoch.
Myth 9. Un ffactor sy’n achosi hunanladdiad
Ffaith: Heb amheuaeth, dydy hunanladdiad ddim yn cael ei achosi gan un ffactor. Yn hytrach, mae’n deillio o storm berffaith o ffactorau a gall y ffactorau hyn fod yn rhai biolegol, seicolegol, clinigol, cymdeithasol neu ddiwylliannol, a gall llawer ohonynt fod yn rhai cudd.
Dydy lleihau hunanladdiad i un achos ddim yn helpu neb, yn enwedig y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf o hunanladdiad neu’r rhai sydd wedi’u gadael ar ôl yn dilyn colled enbyd.
Myth 10. Does dim modd atal hunanladdiad
Ffaith: Mae hyn yn gymhleth oherwydd ar lefel genedlaethol, mae’n bosib atal hunanladdiad ond mae’n anodd iawn gwneud hynny. Er y datblygiadau o ran deall ffactorau risg ac amddiffyn, mae’r her o ran atal hunanladdiad ar lefel unigol yn parhau; nid yn unig ydyn ni’n ceisio nodi pwy sydd fwyaf tebygol o ladd eu hunain, ond hefyd mae angen i ni wybod ble a phryd byddant yn gwneud hynny.
Myth 11. Dim ond pobl o ddosbarth cymdeithasol penodol sy’n marw o hunanladdiad
Ffaith: Dydy hunanladdiad ddim yn parchu dosbarthiadau cymdeithasol. Mae unrhyw un o unrhyw ddosbarth cymdeithasol yn gallu marw o hunanladdiad. Mae’r myth hwn wedi datblygu oherwydd bod cyfraddau hunanladdiad yn uwch ymysg y rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig o’u cymharu â rhai mwy cyfoethog. Mae hunanladdiad yn enghraifft dorcalonnus o anghydraddoldeb ac anghyfartalwch, ac yn dangos pa mor bwysig yw mabwysiadu dull iechyd y cyhoedd o atal hunanladdiad.
Myth 12. Mae gwella cyflwr emosiynol yn lleihau’r risg o hunanladdiad
Ffaith: Dyma fyth trychinebus, oherwydd y berthynas groes sy’n wir. Mae’n ymddangos bod gwelliant mewn cyflwr emosiynol yn gysylltiedig â risg uwch, nid risg is o hunanladdiad.
Dyma’r rhesymeg: pan fydd rhywun yng nghanol cyfnod isel (er enghraifft) a phoen yn eu llethu, yn aml does ganddynt ddim yr egni na’r cymhelliant i lunio a gweithredu cynllun hunanladdiad. Ond os ydyn nhw’n penderfynu ar hunanladdiad fel y ffordd o roi diwedd ar eu poen, fe allai eu cyflwr emosiynol wella gan eu bod yn credu eu bod wedi dod o hyd i’r ateb i’r problemau – hunanladdiad fel y ffordd barhaol o roi diwedd ar y boen.
Y cyngor cyffredinol yw os bydd hwyliau person agored i niwed yn gwella’n anesboniadwy, efallai fod hyn yn achos pryder a dylid holi neu geisio cymorth pellach.
Myth 13. Prin yw’r bobl sy’n meddwl am hunanladdiad
Ffaith: Yn anffodus, dydy hyn ddim yn wir. Yn yr Arolwg Iechyd Meddwl Byd-eang, roedd rhwng 3 ac 16 y cant o oedolion ar draws y byd wedi dweud eu bod wedi cael meddyliau hunanladdol rywbryd yn ystod eu bywyd.
Roedd astudiaeth arall ymysg oedolion ifanc, Astudiaeth Lles yr Alban, wedi canfod bod dros 20 y cant o’r ymatebwyr wedi dweud eu bod wedi cael meddyliau hunanladdol rywbryd yn ystod eu bywyd.
Myth 14. Mae pobl sy’n ceisio lladd eu hunain mewn ffordd ag angeuoldeb isel yn golygu nad ydyn nhw o ddifri am ladd eu hunain
Ffaith: Mae hyn yn rhannol gysylltiedig â’r myth chwilio am sylw, sef mai dyna mae rhywun yn ei wneud os ydyn nhw’n dewis dull ag angeuoldeb isel (low-lethality). Myth yw hwn – dylid cymryd pob gweithred hunanladdol o ddifri; ni ddylid dod i gasgliad ynghylch diffyg bwriad hunanladdol yn sgil angeuoldeb canfyddedig ymgais hunanladdiad.
Yn fyr, dyma’r neges i’w chofio: dylid cymryd pob gweithred hunanladdol neu hunan-niweidiol o ddifri.
Ffynhonnell:
O’Connor, R.C. (2021). When it is Darkest: why people die by suicide and what we can do to prevent it. London: Vermilion, Penguin Random House UK.