Colli nain neu daid/ mam-gu neu dad-cu

Colli nain neu daid/ mam-gu neu dad-cu

Os bydd nain neu daid/mam-gu neu dad-cu wedi marw drwy ladd eu hunain, gall hyn fod yn golled aruthrol i chi. Efallai eich bod wedi teimlo’n agos iawn atynt a’ch bod yn edifar na wnaethoch sylweddoli pa mor ddrwg yr oeddent yn teimlo, neu efallai eich bod yn credu y gallech fod wedi gwneud rhywbeth i’w helpu. Gallwch deimlo bod yn rhaid i chi guddio eich galar eich hun er mwyn osgoi peri gofid i weddill y teulu. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod eich anghenion chi yn cael eu cydnabod. Gall aelodau eraill o’r teulu neu ffrindiau fod o gymorth i chi. Ni ddylech deimlo’n ddrwg ynglŷn â mynd allan gyda’ch ffrindiau a bod yn fwy annibynnol, oherwydd mae dysgu sut i barhau â’ch bywyd yn rhan o’r broses wella.