A ddylai fy mhlant weld y corff a mynd i’r angladd?
Mae’n naturiol i chi boeni am gynnwys plant yn y nhrefniadau’r angladd, ond gall fod yn gam pwysig i’w helpu i dderbyn y farwolaeth, mynegi eu galar a dweud ffarwél. Efallai na fydd bob amser yn bosibl nac yn ddymunol i blant weld y corff, ond os ydynt yn ei weld mae’n bwysig eich bod yn eu paratoi. Efallai y byddwch yn dymuno mynd i mewn i’r ystafell wylio ymlaen llaw er mwyn i chi allu disgrifio i’r plant beth y byddant yn ei weld, ac esbonio y gallai’r unigolyn edrych yn wahanol iawn i’r ffordd maent yn ei gofio, ac y bydd yn oer os byddant yn cyffwrdd ynddo.
Mae rhai plant wedi dweud bod cael eu cynnwys yn y gwaith o drefnu a chymryd rhan yn yr angladd wedi eu helpu, er enghraifft mynd â blodau neu luniau gyda hwy i roi ar yr arch, neu ganu cân neu ddarllen cerdd.
Gall angladd fod yn ddryslyd i blant bach. Efallai y gallwch helpu drwy esbonio beth fydd yn digwydd, ac y bydd rhai pobl yn wylo o bosibl. Efallai y bydd angen i chi ofyn i ffrind neu berthynas ofalu am eich plentyn yn ystod y seremoni a mynd â hwy y tu allan os byddant yn mynd yn aflonydd.