Canllawiau i Ddysgwyr

Pan fyddwch yn chwilio am gyfleoedd hyfforddi a datblygu, mae’n ddefnyddiol bod yn glir ynghylch yr hyn sydd ei eisiau neu ei angen arnoch chi, a sut gallai gwahanol ddarparwyr hyfforddiant ddarparu ar gyfer hynny

  • Gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r mater a sut mae’n effeithio ar bobl
  • Rhagor o wybodaeth a dealltwriaeth o ffeithiau penodol, y sylfaen dystiolaeth a’r arferion gorau
  • Datblygu sgiliau newydd neu rai sydd gennych chi eisoes o ran sut mae cyflawni ymyriad neu reoli sgwrs â phobl rydych chi’n gofalu amdanynt neu sy’n bwysig i chi
  • Magu hyder i ymateb i’r bobl rydych chi’n ceisio rhoi cymorth iddynt ac i deimlo eich bod yn gwneud y pethau iawn

Efallai y bydd yr hyn sydd ei angen arnoch chi yn pennu hyd a dull darparu’r hyfforddiant. Er enghraifft, i ddatblygu sgiliau a hyder, mae’n bosib bydd angen rhyngweithio â phobl eraill, ac amser a man diogel i brofi ac ymarfer eich dysgu. Byddai modd datblygu gwybodaeth, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth drwy fideos hyfforddi rhyngweithiol, modiwlau e-ddysgu, sesiynau grŵp ar-lein, a dysgu hunangyfeiriedig

Fe allech chi weld beth sydd ar gael a chynllunio rhaglen ddysgu i’ch hun, gan ddechrau â chynigion byrrach, haws cael gafael arnynt, cyn symud ymlaen i weithdai hirach, mwy rhyngweithiol, a rhaglenni wyneb yn wyneb efallai

Pan fydd llawer o ddarparwyr hyfforddiant yn cynnig cynnyrch neu raglenni tebyg iawn, ond gwahanol, mae’n gallu bod yn anodd gwybod a fydd yr hyfforddiant a gewch chi yn cyrraedd safon uchel ac yn ddiogel. Efallai y byddai’n syniad da gwneud yn siŵr bod yr hyfforddiant yn bodloni’r canlynol:
  • rhaglen sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol neu’n rhyngwladol, e.e. cynnyrch hyfforddi trwyddedig (ond mae’r rhain yn gallu bod yn anhyblyg weithiau)
  • corff sicrhau ansawdd allanol wedi’i achredu neu wedi sicrhau ei ansawdd
  • wedi’i ddylunio a’i ddarparu gyda chyfraniad pobl â phrofiadau bywyd
  • wedi’i ddarparu gan hyfforddwyr sy’n brofiadol yn y maes ac yn meddu ar yr arbenigedd technegol i ddarparu’r hyfforddiant, o ran eu sgiliau hyfforddi a’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r maes pwnc
  • wedi’i ddarparu gan sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau hefyd ac sy’n gallu defnyddio eu harferion presennol i wella eu cynnig dysgu a datblygu
  • wedi’i ddarparu drwy amrywiaeth o ddulliau drwy gydol eu cynnig i gefnogi gwahanol arddulliau a dewisiadau dysgu, neu gynnig cymysg o ddarpariaeth wyneb yn wyneb ac ar-lein (aml-sianel)
  • ei effeithiolrwydd wedi’i werthuso a chanlyniadau’r gwerthusiadau hynny wedi’u rhannu’n agored
  • y darparwr yn cysylltu â chi ar ôl yr hyfforddiant i gael gwybod sut rydych chi wedi gallu defnyddio eich dysgu, ac a oes angen cymorth neu ddysgu pellach arnoch chi